Rhoi'r gorau i gynllun safle tollau lorïau ym Mona
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi'r gorau i gynllun i ddatblygu canolfan dollau i lorïau ger safle Mona ar Ynys Môn.
Clywodd cynghorwyr yr ynys am y tro pedol wrth iddyn nhw bleidleisio dros benderfyniad cynharach i geisio atal y fath ddatblygiad.
Roedd y penderfyniad hwnnw yn gwrthod cais i addasu termau prydles ar dir sydd yn eiddo i'r cyngor ar Ystâd Ddiwydiannol Mona.
Roedd y grŵp gwrth-bleidiol mwyaf ar y cyngor wedi ceisio cyfeirio penderfyniad y pwyllgor gwaith y cyngor yn ôl i'w ystyried eto.
Ond cafodd y cais i wneud hynny ei wrthod gan gynghorwyr ddydd Mercher, wrth i swyddogion gadarnhau fod Adran Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi wedi rhoi'r gorau i'w cynllun i ddefnyddio'r tir ym Mona o achos diffyg cefnogaeth.
Mae angen safle yn Ynys Môn i ganiatáu ar unrhyw wiriadau tollau ychwanegol wrth i gerbydau gyrraedd a gadael rhwng porthladd Caergybi a Gweriniaeth Iwerddon.
Mae cefnogwyr cynlluniau Mona yn honni y byddai wedi darparu incwm i Gymdeithas Amaethyddol Ynys Môn - sy'n prydlesu'r tir am rent bychan fel cyfleuster parcio a theithio ar gyfer y sioe flynyddol yno.
Ond dadleuodd pwyllgor gwaith y cyngor y byddai diwygio'r brydles er mwyn dal hyd at 100 o lorïau wedi ei atal rhag defnydio'r safle ar gyfer y defnydd bwriadol.
Byddai hefyd yn effeithio ar Mona, Gwalchmai a Rhostrehwfa wrth i lorïau gael eu gorfodi oddi ar yr A55 a thrwy'r pentrefi ar yr A5 i'r ganolfan dollau.
Dywed y cyngor hefyd fod safleoedd amgen a "mwy addas" ar hyd yr A55 wedi'u hargymell - gydag o leiaf un ar gyrion Caergybi.
Wrth gyfarfod ddydd Mawrth, clywodd Pwyllgor Craffu Corfforaethol y cyngor fod Cymdeithas Amaethyddol Ynys Môn yn wynebu "trychineb ariannol" yn dilyn canslo'r sioeau haf a gaeaf oherwydd Covid-19.
"Mae'r sioe hon yn denu hyd at 60,000 dros ddau ddiwrnod, ond mae [y gymdeithas] bellach wedi cael ei gorfodi i ddiswyddo ei holl staff wrth i'r refeniw sychu," meddai'r Cynghorydd Peter Rogers.
"Mae'r sioe bellach yn cael ei gweinyddu gan wirfoddolwyr yn unig, roedd yn ymddangos mai prydlesu'r safle hon oedd unig achubiaeth y sioe tan benderfyniad y cyngor i beidio â chaniatáu ei is-osod."
Disgrifiodd y Cynghorydd Ken Hughes benderfyniad pwyllgor gwaith fel un "brysiog a gwleidyddol", gan nodi y byddai'r cam wedi cynhyrchu o leiaf £250,000 dros bedair blynedd a'i fod yn "gyfle a gollwyd."
Roedd arweinydd grŵp Annibynwyr Môn, y Cynghorydd Bryan Owen, o'r farn y gallai unrhyw effaith ar gymunedau lleol fod wedi ei oresgyn trwy reoli traffig.
"Mae gen i bob hyder y gallai swyddogion fod wedi llunio system i osgoi lorïau rhag teithio trwy Gwalchmai, er enghraifft," ychwanegodd y Cynghorydd Owen.
"Nid wyf yn credu bod ymgynghoriad llawn wedi bod. Beth am eistedd i lawr a thrafod gyda phawb sy'n gysylltiedig?"
Ond roedd aelodau'r cyngor yn unedig yn eu cefnogaeth i benderfyniad y pwyllgor gwaith, gyda chyfreithiwr y cyngor hefyd yn nodi y byddai caniatáu i'r safle gael ei defnyddio trwy gydol y flwyddyn gan yr Adran Gyllid a Thollau a DEFRA yn torri amodau am ddefnydd y safle.
Pleidleisiodd aelodau'r Pwyllgor Craffu Corfforaethol i beidio â chyfeirio'r penderfyniad yn ôl at y pwyllgor gwaith, gyda phum pleidlais o blaid a dwy yn erbyn.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr, Dylan Williams, wrth y cyfarfod fod Adran Cyllid a Thollau EM wedi cadarnhau nad oedd Mona "bellach yn rhan o'r drafodaeth yn dilyn adborth lleol" ond nad oes unrhyw safle wedi'i ddewis hyd yma.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Medi 2020
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2019