Cadw tir ger Caergybi i lorïau os oes traffig wedi Brexit

  • Cyhoeddwyd
Mona
Disgrifiad o’r llun,

Byddai tir ger Mona yn cynnig lle i 200 o lorïau os oes traffig difrifol wedi Brexit

Mae dau ddarn o dir ar Ynys Môn wedi eu clustnodi fel lleoliadau posib i barcio lorïau rhag ofn na fydd porthladd Caergybi yn gallu ymdopi gyda thraffig yn sgil Brexit heb gytundeb.

Mae BBC Cymru'n deall bod y safleoedd yn cynnwys gorsaf lorïau Roadking ger Caergybi, a thir gyferbyn â maes awyr Mona.

Llywodraeth Cymru sy'n arwain ar y gwaith cynllunio wrth iddyn nhw baratoi am Brexit heb gytundeb.

Mae disgwyl i Aelodau Seneddol bleidleisio yn erbyn cytundeb Theresa May ddydd Mawrth, sy'n cynyddu'r siawns o'r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.

Mae'r Prif Weinidog yn ceisio casglu mwy o gefnogaeth i'w chytundeb cyn y bleidlais yn San Steffan, ond mae disgwyl i nifer o ASau Ceidwadol ymuno â Llafur, yr SNP, DUP a Phlaid Cymru a'i wrthwynebu.

Ddydd Gwener, bydd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford yn dweud wrth gynhadledd fusnes yn Sir y Fflint bod Brexit heb gytundeb yn "gwbl annerbyniol a rhaid ei ddiystyru fel opsiwn".

Disgrifiad o’r llun,

Porthladd Caergybi yw'r ail brysuraf yn y DU

Mae 'na bryder y gallai mwy o archwiliadau ar ffiniau yn sgil Brexit heb gytundeb arwain at broblemau traffig mewn porthladdoedd.

I leihau problemau, mae Llywodraeth y DU wedi awgrymu lleihau archwiliadau neu eu hepgor yn gyfan gwbl i loriau o'r UE.

Ond dywedodd yr UE y byddai'n gosod y cyfyngiadau llawn ar bobl a nwyddau sy'n mynd i'r UE o'r DU.

'Oedi difrifol'

Ddydd Llun, dywedodd Mr Drakeford bod "risg y gallai greu oedi fel nad yw lorïau sy'n mynd i Iwerddon yn gallu gadael porthladdoedd Cymru".

I atal hynny, dywedodd bod "lle all gael ei ddefnyddio" ym Mhenfro ac Abergwaun ond "nad yw Caergybi yn y sefyllfa yna".

Dywedodd ffynhonnell o Gyngor Môn mai'r bwriad yw defnyddio capasiti'r porthladd o 600 lori yn gyntaf, ac yna'r tua 200 o lefydd ychwanegol yn Roadking.

Pe bai angen mwy o le, gallai lorïau gael eu dargyfeirio at safle Mona.

Fel rhan o'r paratoadau Brexit, mae Llywodraeth Iwerddon yn bwriadu "sicrhau bod unrhyw drafferth... yn cael ei leihau" ond y gallai lorïau sy'n teithio i Gymru a'r DU yn "wynebu oedi difrifol".

Mae tua 70% o nwyddau Iwerddon sy'n teithio drwy'r DU i Ewrop yn mynd drwy borthladdoedd Cymru - y mwyafrif o hynny drwy Gaergybi, sef yr ail borthladd brysuraf yn y DU.