Tri aelod yn ffurfio grŵp newydd yn Senedd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Caroline JonesFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Caroline Jones yn aelod annibynnol ers gadael Plaid Brexit

Mae dau aelod Plaid Brexit yn Senedd Cymru ac un aelod annibynnol yn ffurfio grŵp newydd ym Mae Caerdydd.

Bydd David Rowlands a Mandy Jones, y ddau o Blaid Brexit, a'r aelod annibynnol Caroline Jones, yn ffurfio'r Independent Alliance for Reform,

Dyma fydd y bedwaredd grŵp fwyaf yn y Senedd - sydd â 60 o aelodau.

Daw'r newid yn dilyn dyfalu y bydd arweinydd grŵp Plaid Brexit, Mark Reckless, yn ymuno â phlaid Abolish the Assembly.

Dywedodd Caroline Jones y byddai'r grŵp newydd yn canolbwyntio ar "benderfynu sut all datganoli yng Nghymru weithio'n well i bobl ein gwlad".