Y Bencampwriaeth: Abertawe 1-2 Huddersfield

  • Cyhoeddwyd
Josh KFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Josh Koroma sgoriodd y gôl fuddugol i Huddersfield

Daeth rhediad diguro Abertawe yn y Bencampwriaeth i ben ddydd Sadwrn ar ôl iddyn nhw golli o 2-1 yn erbyn Huddersfield yn Stadiwm Liberty.

Roedd goliau gan Harry Tofolo a Josh Koroma yn ddigon i roi buddugoliaeth i'r Terriers.

Roedd yr ymwelwyr wedi colli eu dwy gêm agoriadol o'r ymgyrch heb sgorio gôl, ond fe achoson nhw broblemau i amddiffyn Abertawe, a oedd yn chwarae heb Joe Rodon am y tro cyntaf.

Sgoriodd Andre Ayew i'r Elyrch o'r smotyn i unioni'r sgôr yn yr hanner cyntaf, ond Koroma sgoriodd y gôl fuddugol, a hynny ar ôl 67 munud.

Bydd Abertawe, a gollodd am y tro cyntaf yn y gynghrair ers 11 Gorffennaf, yn teimlo y dylen nhw fod wedi cael rhywbeth o'r gêm.