Nifer marwolaethau wythnosol Covid-19 Cymru ar gynnydd

  • Cyhoeddwyd
Graffeg coronafeirwsFfynhonnell y llun, Getty Images

Cafodd 37 o farwolaethau eu cofnodi yng Nghymru yn yr wythnos hyd at 9 Hydref oedd yn gysylltiedig â Covid-19, yn ôl data diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Mae hynny'n gynnydd o'r 25 o farwolaethau a gafodd eu cofnodi yn ystod yr wythnos flaenorol ble roedd cadarnhad neu amheuaeth bod claf â coronafeirws

Roedd 23 o'r marwolaethau wedi'u cofnodi o fewn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, ble bu 47 o farwolaethau yn ysbytai'r bwrdd, yn bennaf yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

Mae'r ystadegau diweddaraf yn cynnwys 17 o farwolaethau yn ysbytai Rhondda Cynon Taf a phump ym Merthyr Tudful.

Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r sefyllfa yn ardaloedd pedwar o fyrddau iechyd Cymru

Roedd nifer y marwolaethau ysbyty yn Rhondda Cynon Taf yn yr wythnos dan sylw yn ail ond i Lerpwl, oedd â 21.

Mae'n golygu bod cyfanswm y marwolaethau yn Rhondda Cynon Taf ers dechrau'r pandemig yn 344, sy'n gosod y sir yn nhabl y 10 ardal waethaf ar draws Cymru a Lloegr gyda 143.2 o farwolaethau i bob 100,000 o'r boblogaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna fwy o farwolaethau ychwanegol yr yr wythnos dan sylw o'i gymharu â'r cyfartaledd dros bum mlynedd

Ar draws Cymru, mae nifer y marwolaethau ychwanegol - sy'n cymharu niferoedd pob marwolaeth o ba bynnag achos meddygol o fewn wythnosau penodol o'r flwyddyn - roedd yna 23 yn fwy na'r cyfartaledd dros bum mlynedd yn yr wythnos ddiwethaf.

Cafodd 28,423 o farwolaethau, o gynnwys pob achos a chlefyd, eu cofnodi hyd at 9 Hydref, sy'n 8.2% yw uwch na'r cyfartaledd dros bum mlynedd.

Roedd 9.3% o'r rhain - 2,650 - yn crybwyll Covid-19.