Dyblu'r arian i helpu busnesau ymdopi â'r cyfnod clo byr
- Cyhoeddwyd

Mae campfeydd yn gorfod cau dros dro o nos Wener ymlaen, wythnosau yn unig ar ôl cael dechrau ailagor
Mae Llywodraeth Cymru wedi "dyblu" ei Chronfa Gwydnwch Economaidd i helpu busnesau sy'n dal i deimlo effeithiau Covid-19, yn ôl Gweinidog yr Economi.
Dywedodd Ken Skates bod £150m yn cael ei ychwanegu i'r gronfa, sy'n golygu bod "bron i £300m o gyllid Llywodraeth Cymru ar gael i gefnogi busnesau sy'n cael eu heffeithio gan y cyfnod clo byr".
Yng nghynhadledd newyddion y llywodraeth, fe gadarnhaodd fod busnesau anhanfodol yn gorfod cau pan ddaw'r "toriad tân" 17 diwrnod i rym ar draws Cymru nos Wener.
Nod yr arian yw helpu "cyflogwyr bach a chanolig" a busnesau "yn y sector lletygarwch, twristiaeth a hamdden sy'n gorfod cau'u drysau dros y cyfnod atal byr".
Taliadau a grantiau
Dywed Mr Skates y bydd yr £150m ychwanegol "yn mynd yn syth i goffrau busnesau Cymru i'w helpu i dalu eu biliau ac i wrthsefyll yr wythnosau a'r misoedd anodd o'n blaenau".
Mae'r pecyn diweddaraf yn cynnwys:
Taliadau o£1,000 i fusnesau bach â gwerth ardrethol hyd at £12,000;
Taliadau hyd at £5,000 i fusnesau adwerthu, lletygarwch a hamdden sy'n gorfod cau, ac sydd â gwerth ardrethol hyd at £50,000;
Grant o £2,000 i fusnesau sy'n gorfod cau dros y cyfnod atal byr neu wedi'u heffeithio o ganlyniad iddo;
Grant arall o £1,000 i fusnesau y cafodd y cyfyngiadau lleol effaith faterol arnynt am 21 niwrnod neu fwy cyn dechrau'r cyfnod atal byr.

Dim ond siopau sy'n gwerthu nwyddau hanfodol sy'n cael aros ar agor rhwng nos Wener a 9 Tachwedd
Gan gyfeirio at bryderon ynghylch cau busnesau nad sy'n hanfodol, dywedodd Mr Skates fod "gwneud dim ddim yn opsiwn", a bod Llywodraeth Cymru'n "gweithio'n ddiflino i gefnogi ein heconomi drwy'r argyfwng yma ac i warchod swyddi".
"Oni bai ein bod yn gweithredu rŵan gyda thoriad tân o bythefnos, mae yna bosibilrwydd gwirioneddol y byddai ein GIG yn cael ei lethu, ac fe allwn ni weld niferoedd uwch fyth o bobl yn marw gyda coronafeirws y gaeaf yma".
Ychwanegodd y byddai cyflwyno mesurau am y pythefnos nawr "yn rhoi'r posibilrwydd orau i fanwerthwyr gael cyfnod Nadolig llewyrchus".
"Mae yna lawer o rannau o'r economi, mae yna lawer o weithgareddau, sydd, os cânt eu stopio, os cânt eu cau, ddim ond yn cyfrannu ychydig at ostwng y rhif R hwnnw, ond i gyd, gyda'i gilydd, mae'n gwneud gwahaniaeth sylweddol.
"Rwy'n siŵr y byddai'r rhan fwyaf o bobl ym maes manwerthu yn dymuno cael cyfnod byr o bythefnos o gau os, yn gyfnewid, eu bod yn cael cyfnod hirach o sicrwydd", meddai.
'Gweithwyr allweddol a theithiau hanfodol'

Dywedodd Mr Skates fod Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Drafnidiaeth Cymru a chwmnïau bws "gynnal llai o wasanaethau, yn enwedig y tu hwnt i'r oriau brig er mwyn "tanlinellu'r neges arhoswch adref" drwy'r cyfnod clo byr.
Roedd yn cydnabod, meddai, cymhlethdod gwneud hynny, ac yn gwerthfawrogi ymdrechion pawb sy'n gweithio yn y sector trafnidiaeth wrth gyflwyno mesurau tymor byr.
"Bydd gwasanaethau'n debyg i'r rhai ym mis Awst a bydd yn cael ei gyflawni trwy ganslo teithiau a newidiadau i amserlenni," dywedodd.
"Mae'n hollbwysig i ddiogelu'r capasiti sy'n weddill ar gyfer gweithwyr allweddol a theithiau hanfodol.
"Dylai pobl sy'n gorfod defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ddarllen y cyngor yn ofalus a gwirio'n uniongyrchol gyda'r gweithredwyr cyn teithio.
"Bydd bysiau a threnau sy'n cael eu defnyddio gan ddisgyblion i fynd i'r ysgol a'r rheiny sy'n croesi'r ffin i Loegr ble mae'r cyfyngiadau presennol yn wahanol, yn cael eu gwarchod."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2020