Y Bencampwriaeth: Coventry City 1-1 Abertawe
- Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid i Abertawe fodloni ar rannu'r pwyntiau ar eu hymweliad gyda Coventry City nos Fawrth.
Coventry oedd y cynaf i rwydo - gyda ôl gampus gan Jordan Shipley. Ond fe frwydrodd yr Elyrch yn ôl, gydag ergyd gywrain Andre Ayew tra'n gwrth ymosod yn unioni'r sgôr yn St Andrew's.
Roedd Coventry'n chwilio am eu hail fuddugoliaeth yn unig ers dychwelyd i'r Bencampwriaeth o Adran Un y tymor diwethaf, ond roedd ystyfnigrwydd Abertawe'n ormod iddynt ar y noson.
Fe wnaeth safon chwarae Abertawe wella yn ystod yr ail hanner, ac fe fydd Steve Cooper yn eithaf bodlon gyda'r canlyniad ar y cyfan - canlyniad sydd yn ymestyn eu rhediad diguro oddi cartref i naw gêm - gan ymestyn yn ôl i fis Chwefror.
Fe welodd Coventry City sawl cyfle yn hwyr yn y gêm i fynd ar y blaen, ond doedd eu hymdrechion ddim yn ddigon i hawlio'r tri phwynt yn y pen draw.