Y Bencampwriaeth: Caerdydd 1-1 Bournemouth

  • Cyhoeddwyd
Chwaraewr Caerdydd Harry Wilson yn wynebu ei gyn glwb BournemouthFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Treuliodd Harry Wilson dymor ar fenthyg gyda Bournemouth y tymor diwethaf

Sgoriodd y Cymro Harry Wilson yn erbyn ei hen glwb i sicrhau pwynt i Gaerdydd yn y Bencampwriaeth.

Er i Gaerdydd ddechrau'n addawol, aeth yr ymwelwyr ar y blaen 10 munud cyn yr egwyl pan rwydodd Dominic Solanke o groesiad Jack Stacey o'r asgell dde.

Bournemouth oedd yn rheoli ar ddechrau'r ail hanner ac fe ddaeth Junior Stanislas yn agos at ddyblu'r fantais, ond i'w ergyd wyro heibio'r postyn.

Cafodd ergyd Solanke ei arbed gan y golwr Alex Smithies, ac fe newidiodd y gêm o blaid y tîm cartref.

Roedd Wilson wedi taro'r trawst gyda chic rydd cyn iddo unioni'r sgôr - ei gôl gyntaf dros Gaerdydd ers ymuno ar fenthyg o Lerpwl.

Fe aeth Stanislas a Solanke yn agos i'r ymwelwyr ond sicrhaodd Caerdydd eu pwynt cartref cyntaf o'r tymor ar ôl colli'r ddwy gêm flaenorol ac maen nhw'n 13eg yn y tabl.