Yr Aelod o'r Senedd, Hefin David, wedi marw'n sydyn yn 47 oed

- Cyhoeddwyd
Mae'r Aelod o'r Senedd, Hefin David wedi marw yn 47 oed.
Roedd wedi bod yn aelod Llafur dros etholaeth Caerffili ers 2016.
Dywedodd Heddlu Gwent eu bod wedi cael eu galw i gyfeiriad ym mhentref Nelson yng Nghaerffili tua 18:55 nos Fawrth, ble cafodd dyn 47 oed ei ganfod yn ddiymateb.
Fe gafodd ei gadarnhau'n farw gan barafeddygon y gwasanaeth ambiwlans yn y fan a'r lle, a dyw'r farwolaeth ddim yn cael ei thrin fel un amheus.
Roedd yn bartner i Aelod Senedd Cwm Cynon, Vikki Howells.
'Gwleidydd eithriadol, cynnes a brwdfrydig'
Dywedodd y prif weinidog ac arweinydd Llafur Cymru, Eluned Morgan: "Rydym yn eithriadol o drist am farwolaeth sydyn Hefin.
"Mae ein meddyliau gyda'i deulu yn ystod y cyfnod ofnadwy hwn.
"Roedd Hefin yn aelod annwyl o deulu Llafur. Gwasanaethodd Caerffili fel cynghorydd ac Aelod o'r Senedd gyda balchder ac angerdd.
"Roedd yn wleidydd eithriadol, cynnes, brwdfrydig ac yn gyfathrebwr gwych – yn enwedig ar ran ei etholwyr.
"Bydd colled fawr ar ei ôl."

Dywedodd y Llywydd Elin Jones fod y newyddion am farwolaeth Hefin David wedi bod yn "dorcalonnus i ni fel cymuned y Senedd"
Wrth roi teyrnged, dywedodd Prif Weinidog y DU Syr Keir Starmer fod Mr David "yn llais cryf dros bobl Cymru ac yn was cyhoeddus ymroddedig".
"Fe roddodd ei fywyd tuag at sicrhau fod gan bob person a phob cymuned yng Nghymru y cyfleoedd a'r gefnogaeth y maen nhw'n ei haeddu.
"Fel Aelod o'r Senedd dros Gaerffili, lle'r oedd yn byw a chafodd ei eni, roedd yn falch iawn o'i gymuned."
Dywedodd Jeff Cuthbert, y cyn-Aelod Llafur dros Gaerffili, fod Mr David yn "ffrind ac yn gydweithiwr yr oeddwn yn ymddiried ynddo".
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens fod y newyddion yn "ofnadwy" a'i bod wedi "colli ffrind a chydweithiwr annwyl".
'Cymaint i'w gynnig i Gymru a'i gymuned'
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd cyn-arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies fod y newyddion yn "dorcalonnus".
"Mae'n drasig bod Aelod mor ifanc o'r Senedd, a oedd a gymaint i'w gynnig i Gymru a'i gymuned wedi ein gadael," meddai.
Yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, roedd gan Hefin David barch gan gydweithwyr o bob plaid yn y Senedd.
Ychwanegodd ei fod yn "golled i'r Senedd" a'i fod yn wleidydd oedd yn gallu gweld tu hwnt i wahaniaethau pleidiol, ac yn "ymgyrchydd brwd dros sawl mater".

Roedd Hefin David yn un o bum comisiynydd yn y Senedd, yn gyfrifol am y ffordd mae'r sefydliad yn rhedeg o ddydd i ddydd
Yn ôl Laura Ann Jones, yr Aelod Reform o'r Senedd, roedd Mr David yn berson "arbennig" a'u bod â pherthynas dda "er gwaethaf eu gwahaniaethau gwleidyddol".
"Roedd wastad wir yn poeni am ei etholwyr, yn brwydro'n galed dros yr hyn yr oedd yn ei gredu ac roeddwn yn ei edmygu o ran ei angerdd tuag at wella polisïau anghenion dysgu ychwanegol," meddai.
"Roedd ei gyfraniad i wleidyddiaeth Cymru yn enfawr, a bydd colled ar ei ôl - yn wleidyddol ac yn bersonol - yn y Senedd."
'Arbennig o boblogaidd ar draws y Senedd'
Roedd Mr David yn un o aelodau mwyaf amlwg Llafur yn y meinciau ôl, a doedd dim ofn ganddo i fynd yn erbyn ei blaid ei hun ar adegau.
Roedd yn boblogaidd gyda gwleidyddion o'r holl bleidiau a newyddiadurwyr ym Mae Caerdydd, ac roedd yn adnabyddus am ei gyfaniadau bywiog i ddadleuon yn y siambr.
Roedd hefyd yn un o bum comisiynydd yn y Senedd, yn gyfrifol am y ffordd mae'r sefydliad yn rhedeg o ddydd i ddydd.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AS: "Mae'r newyddion am farwolaeth Hefin David yn destun sioc a thristwch mawr.
"Bu Hefin yn cynrychioli ei etholaeth gydag ymroddiad llwyr. Daeth ag angerdd, egni, ac annibyniaeth barn i'n gwleidyddiaeth a bydd ein Senedd yn dlotach hebddo."
Ychwanegodd Delyth Jewell, yr Aelod Plaid Cymru o'r Senedd: "Roedd Hefin wastad yn gadarn o ran ei ddaliadau, yn ffyddlon i'w wreiddiau ac fe gynrychiolodd ei ardal yn wych.
"Roedden ni'n aelodau o bleidiau gwahanol, ond fe weithiom gyda'n gilydd ar sawl mater lleol. Fe wnaf i ei fethu."

Roedd Hefin David yn boblogaidd gyda gwleidyddion o'r holl bleidiau, a newyddiadurwyr ym Mae Caerdyd
Ychwanegodd y Llywydd Elin Jones: "Mae'r newyddion trasig am farwolaeth Hefin wedi bod yn dorcalonnus i ni fel cymuned y Senedd.
"Roedd Hefin yn llawn bywyd a brwdfrydedd dros ei etholwyr a'u hachosion. Roedd yn wleidydd angerddol, yn ffyddlon i'w blaid, ei wlad, a'i etholwyr.
"Roedd Hefin yn arbennig o boblogaidd ar draws y Senedd.
"Roedd ganddo'r ddyletswydd hefyd fel ein Comisiynydd â chyfrifoldeb dros Gyllid ac ymgymerodd â'r rôl honno yn ddiwyd ac yn fedrus.
"Mae'r newyddion yn dorcalonnus ac yn ein hatgoffa o ba mor fregus yw bywyd a'r angen i ni i gyd gefnogi ein gilydd."
'Caredig a meddylgar'
Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds fod pawb o fewn y blaid "wedi eu tristau" o glywed y newyddion.
"Rydyn ni gyd yn meddwl am ei deulu a'i ffrindiau, yn enwedig ei wraig Vikki Howells AS a'i blant, ei staff a'i gymuned yng Nghaerffili."
Dywedodd prif gwnstabl Heddlu Gwent, Mark Hobrough: "Mae fy meddyliau a'm cydymdeimlad diffuant yn mynd allan i holl deulu, ffrindiau a chydweithwyr Hefin yn ystod yr amser anodd hwn.
"Ar ôl i mi ymuno â Heddlu Gwent fel prif uwch-arolygydd yr ardal sy'n cwmpasu Caerffili, fe fues i'n gweithio'n agos gyda Hefin ar sawl achlysur, ac roeddwn yn ei ystyried yn unigolyn caredig a meddylgar.
"Roedd yn was cyhoeddus ymroddedig i Gaerffili, a bydd colled sylweddol o ran ei ymrwymiad i'n cymunedau."