Lluniau: Sioe Môn 2025
- Cyhoeddwyd
Mae Sioe Môn yn un o'r gwyliau amaethyddol fwyaf yng Nghymru, gan ddenu degau o filoedd i Faes Sioe Mona dros ddau ddiwrnod.
Eleni roedd yr ŵyl yn cael ei chynnal ar 12-13 Awst, ac fe anfonodd Cymru Fyw y ffotograffydd Arwyn Roberts (Arwyn Herald) i'r sioe i ddal rhywfaint o'r golygfeydd.

Dafydd Huw o Fodffordd yn mwynhau hufen iâ yn y tywydd poeth

Lucy Evans o Rosgadfan ddaeth yn ail yn adran y ceffylau gwedd

Jac Roberts o Lanynghenedl ddaeth yn gyntaf yng nghystadleuaeth y bugail ifanc dan chwech

Katy, Bryn a Danni o'r Fali gyda phencampwryr y gwartheg godro (grŵp o dri)

Llywydd y sioe eleni, Huw Roberts a'i wraig Ann

Rhys Eifion Griffith o Benisarwaun a gafodd gyntaf yn adran y ceffylau gwedd blwydd

Teulu Williams o Landdeusant gyda phencampwr yr adran wartheg

Hefin Roberts a Cai Morris, cogyddion Chateau Rhianfa yn coginio yn y neuadd fwyd

Jack Holroyd yn arddangos pencampwr y moch ar ran Grace Betherton

Elliw Mai Griffiths, llysgennad y sioe gyda'r cadeirydd Gareth Jones a'r ddarpar llysgennad, Mared Edwards

Y llysgennad Elliw Mai Griffiths yn y Gorlan Addysg. Gobaith Elliw yw rhoi gwell syniad i bobl o ble mae eu bwyd yn dod yn yr orlan addysg gyntaf erioed yn y sioe

Ffermwyr Ifanc Môn oedd enillwyr stondin orau y sioe

Ac enillwyr y stondin fasnachol orau ar y maes oedd Menai Tractors

Cafodd Lwsi o Lanfair ddiwrnod i'w gofio gyda Rhys a Theresa o'r gwasanaeth tân

Dyfed Jones o Edern a gafodd gyntaf gyda'i ddafad Torwen

Siân, Olwen a Margret o ganghennau Merched y Wawr yr ynys yn paratoi paneidiau ar gyfer y beirniaid ar y maes
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd15 awr yn ôl
- Cyhoeddwyd10 Awst 2022