'Methu cael cawod adref ers pedair blynedd yn dorcalonnus'

Mae Katherine Dutson yn byw gyda Scoliosis yr asgwrn cefn a chyflwr geneteg heb ddiagnosis, sy'n cael effaith ar ei symudedd
- Cyhoeddwyd
Mae dynes anabl sydd heb allu cael cawod yn ei chartref ers pedair blynedd yn dweud bod y diffyg brys i daclo ei hanghenion yn "dorcalonnus".
Dydy Katherine Dutson, 41, ddim yn gallu sefyll na cherdded ac mae hi'n gorfod defnyddio cadair wedi'i haddasu er mwyn symud o gwmpas ei chartref yn Nhrelluest, Caerdydd.
Ond gan nad yw'n gallu symud cystal bellach, dydi'r offer sydd nawr ei angen arni ddim yn ffitio yn ei hystafell ymolchi - er iddi ofyn i'w chymdeithas dai a'r cyngor am ddatrysiad.
Mae Cyngor Caerdydd wedi dweud yn y gorffennol eu bod nhw'n "edrych ar bob llwybr posib" i ddod o hyd i lety priodol "fel mater o frys", ond bod pethau wedi cymryd "hirach nag y bydden ni wedi hoffi".
- Cyhoeddwyd8 Mehefin
- Cyhoeddwyd14 Mai
Fe wnaeth problemau symudedd Ms Dutson, sydd yno ers ei phlentyndod, waethygu yn ei 20au ac mae nawr yn gorfod defnyddio teclyn codi i symud o'i gwely i'w chadair.
Roedd hi'n arfer gallu defnyddio'r gawod yn ei thŷ, cyn i'w iechyd waethygu - gyda Scoliosis ar ei chefn a chyflwr geneteg sydd heb ddiagnosis.
Mae hi bellach angen cadair arbennig i'r gawod, fyddai'n ymestyn yn llorweddol.
Ond mae'r unig un fyddai'n ddigon mawr i'w thaldra 6'6 hi yn rhy fach i ffitio yn yr ystafell ymolchi, ochr yn ochr â'i gofalwyr.
"Mae'n anodd iawn a thorcalonnus iawn," meddai.

Oherwydd ei thaldra a'i phroblemau symudedd, ni fyddai'r gadair arbennig sydd ei angen ar Katherine Dutson yn ffitio yn yr ystafell ymolchi
Ychwanegodd: "Mae wedi bod yn bedair blynedd o uffern, a dim gobaith bod modd dod o hyd i ystafell ymolchi sy'n mynd i weithio i fi a rhoi'r urddas yna i fi."
Mae'n golygu bod Ms Dutson yn dibynnu ar gael ei golchi yn ei gwely gan y gofalwyr, ond mae hynny hefyd yn peri "risg uchel o haint" i rywun yn ei chyflwr hi.
Cafodd hi a'i gŵr James wybod gan eu cymdeithas dai y byddai estyniad i'r cartref yn rhy ddrud ac maen nhw hefyd wedi bod yn aros am flynyddoedd ar restr aros y cyngor am dŷ gwahanol.
"Dydyn nhw ddim yn deall faint dwi'n dioddef yn ddyddiol," meddai Ms Dutson.
"Mae e wedi cael ei normaleiddio - i ganiatáu golchi yn y gwely fel datrysiad derbyniol.
"Fyddai pobl abl eu corff ddim yn hoffi just golchi mewn powlen bob dydd, a dwi'n teimlo bod diffyg brys wrth geisio dod o hyd i rywle i fi."
'Teimlo fel baich'
Yn ôl Anabledd Cymru mae tai yn un o brif bryderon y rheiny sy'n cysylltu â nhw am gyngor neu gymorth – ac mae profiad Ms Dutson yn llawer rhy gyffredin.
"Fel arfer problemau hygyrchedd yw e," meddai Leandra Craine, Swyddog Busnes ac Aelodaeth yr elusen.
"Os na allwch chi gael cartref lle 'dych chi'n llewyrchu yn annibynnol, mae'n anodd iawn mynd allan a byw bywyd annibynnol yn ei chyfanrwydd."

Yn ôl Leandra Craine, mae tai yn un o'r prif bynciau sy'n codi ymhlith y rheiny sy'n cysylltu ag Anabledd Cymru
Ychwanegodd Ms Craine bod y "diffyg capasiti" sydd gan nifer o gynghorau i ddiwallu'r galw am dai hygyrch yn "broblem fawr".
Ond mae angen mwy o gynrychiolaeth anabl "ar draws pob sector", meddai, gyda gwaith hefyd yn parhau gyda Llywodraeth Cymru ar gynllun gweithredu.
"Os nad oes ganddoch chi ddealltwriaeth o brofiad y bywyd yna, 'dych chi weithiau ddim yn deall faint o broblem yw pethau, pa mor ddifrifol ydyn nhw," meddai.
"Thema gyffredin pan 'dyn ni'n siarad gyda phobl anabl yw eu bod nhw'n teimlo wedi'u hanghofio a'u gwthio i'r ochr, yn teimlo fel baich i gymdeithas a'r oll maen nhw eisiau yw byw gydag ychydig mwy o urddas."
'Ddim yn flaenoriaeth'
Dair blynedd yn ôl fe ddechreuodd Katherine Dutson gofnodi ei thrafferthion ar TikTok, ac mae'n dweud bod hynny wedi annog eraill mewn sefyllfaoedd tebyg i rannu eu profiadau hwythau.
Ond mae hi dal yn teimlo nad oes "gobaith ar y gorwel o ddod o hyd i gartref priodol", er i Gyngor Caerdydd anfon llythyr iddi 16 mis yn ôl yn cydnabod bod y broses yn cymryd "hirach nag y bydden ni wedi hoffi".
Roedd y llythyr o fis Ebrill 2024 hefyd yn dweud bod y cyngor yn "edrych ar bob llwybr posib" i ddod o hyd i lety priodol, "fel mater o frys", gan gyfaddef fodd bynnag "na fydd hyn yn cael ei ddatrys yn y tymor byr".

Mewn llythyr i Mrs Dutson ym mis Ebrill 2024, fe ddywedodd Cyngor Caerdydd fod ganddyn nhw "bob cydymdeimlad" â'i sefyllfa hi
Mae hynny wedi gadael Ms Dutson yn teimlo "nad ydyn ni'n flaenoriaeth".
"Mae angen agwedd bositif i ddod o hyd i atebion, nid difaterwch a chael ein rhoi yn y pentwr 'rhy anodd'," meddai.
"Mae'n deimlad ofnadwy pan mae... pobl gydag anghenion mwy cymhleth yn aml yn cael eu gadael heb unrhyw help, achos mae'n rhy anodd ac yn costio gormod o arian.
"Mae angen cymryd camau gweithgar i'r sefyllfa, a deall faint o bobl sy'n dioddef yn y sefyllfa yma," ychwanegodd.
Mae Cyngor Caerdydd a chymdeithas dai Linc Cymru wedi cael cais am ymateb.