Hedfan balŵn aer poeth yn 'cadw enw Arwel yn fyw'

Arwel, Laura, Owen a Sofia
- Cyhoeddwyd
Laura Davies o Lanwrda yw'r fenyw gyntaf i hyfforddi a chael trwydded hedfan balŵn aer poeth yng Nghymru – ac mae wedi gwneud hynny er cof am ei gŵr Arwel a fu farw mewn damwain car ger Llandeilo yn 2021.
Roedd hedfan balŵn aer poeth yn rhan bwysig o fywydau'r teulu cyn y ddamwain ac mae Laura wedi cymhwyso fel peilot ei hun er mwyn Arwel a'r plant, fel mae'n ei esbonio wrth Cymru Fyw: "O'n i ddim moyn i'r plant golli mas am bod ni wedi colli Arwel.
"O'n ni wastad yn siarad am ba fath o fywyd o'n ni moyn i'r plant. Arwel a'r plant yw'r ysbrydoliaeth i gadw fynd ac i gadw enw Arwel yn fyw. A 'neud yn siŵr bod y plant ddim yn anghofio'r atgofion o ddyn mor sbeshal."
Mae hanes hedfan balŵn aer poeth yn y teulu, gyda tad Arwel hefyd yn beilot felly roedd Laura yn hen law ar gynorthwyo gyda'r balŵn: "Roedd Arwel yn dysgu hedfan balŵns a ges i sawl blwyddyn o ddod yn fwy cyfarwydd gyda'r balŵn.
"Roedd y balŵn yn ran fawr o'n bywyd ni fel teulu. Ar ôl colli Arwel collon ni'r profiad o fod mas yn y balŵn – yn enwedig i'r plant oedd hwnna'n golled enfawr.
"Buon ni mas i Iwerddon sawl gwaith i hedfan balŵn, buon ni yn Longleat i'r ŵyl balŵn bob blwyddyn – oedd y balŵn yn llenwi lot o'n bywydau ni."

Yn 2022 dechreuodd Laura hyfforddi fel peilot balŵn aer poeth. Er fod menywod eraill yng Nghymru wedi cymhwyso fel peilot yn y gorffennol, hi yw'r fenyw gyntaf sy' wedi gwneud yr holl hyfforddiant a'r prawf i gymhwyso yng Nghymru.
Ym mis Gorffennaf 2025 pasiodd hi'r prawf hedfan, fel mae'n sôn: "Y pwrpas i fi yn wreiddiol oedd cael y balŵn mas o'r sied a nôl lan yn yr awyr er mwyn cofio Arwel.
"Roedd ffrind gorau Arwel yn beilot hefyd – cynigodd e helpu fi i ddysgu hedfan a gan bod y balŵn gyda ni a gan bod e'n rhywbeth oedden ni gyd yn gweld ishe dechreuais i ddysgu."

Profiad emosiynol
Mae'r profiad o gymhwyso wedi bod yn un emosiynol i Laura: "Dwi wedi cael sawl flight ble dwi mewn floods of tears.
"Hedfan lawr Dyffryn Tywi, mae'n ardal mor bert i ni ac ardal ni wedi byw ac wedi tyfu lan ac wedi hedfan y balŵn yno gyda Arwel am flynyddoedd maith. Mae tŷ y teulu yn Nyffryn Tywi ac mae Arwel wedi ei gladdu yng nghapel Tabor yno so s'dim ots le ydy ni yn Nyffryn Tywi mae rhyw atgofion sbeshal iawn o Arwel lan yn y balŵn.
"Mae wedi bod yn broses emosiynol iawn achos o'n i' n teimlo'n rili agos at Arwel yn y balŵn. Oedd pwrpas sbeshal i 'neud e. Ac ambell waith oedd e'n teimlo yn galed hefyd achos oeddet ti'n teimlo'r golled mwyaf.
"Oedd y plant yn joio gweld y balŵn ac mae'n dod nôl ag atgofion rili sbeshal o fod lan ynddo gyda Arwel. Mae'r plant yn lwcus bod nhw wedi cael amser yn teithio'r ardal ac enjoio sawl flight 'da Arwel.
"Maen nhw mor browd o fi bod fi wedi cael y profiad o hedfan y balŵn a nawr dwi'n beilot hefyd.
"Fel teulu mae'n amser nawr i gael enjoio'r balŵn a chofio Arwel 'to."
Y ddraig goch

Mae rhywbeth arbennig iawn am y balŵn, fel mae Laura'n sôn: "Oedd Arwel ishe balŵn tebyg i'w dad – mae'n goch, gwyn a gwyrdd ac mae draig goch so mae'n edrych fel fflag Cymru.
"S'dim ots le ni'n mynd mae pawb yn nabod ni a'n dweud, 'the Welsh team are here.'
"Pan oedden ni'n mynd i Iwerddon oedd pobl yn dweud, 'the Welsh have arrived'.

Ac nid yn unig mae Laura wedi dysgu i hedfan balŵn ond mae hi hefyd wedi cychwyn gŵyl balŵn aer poeth er cof am Arwel o'r enw Ar y Gorwel.
Mae'r ŵyl yn Sir Gaerfyrddin yn codi arian at elusen Ambiwlans Awyr Cymru ac mae draig goch yr elusen yn hedfan gyda nhw yn y fasged. Mae Laura yn ymddiriedolwr i'r elusen wedi i'r ambiwlans awyr gynorthwyo ar ddiwrnod damwain Arwel ac hefyd cefnogi'r teulu wedi hynny.
Meddai: "Un o'r pethau ni'n neud gyda'r ŵyl Ar y Gorwel yw codi arian at yr elusen. Mae'r ddraig goch yn atgoffa ni o pam ni'n 'neud beth ni'n 'neud.
"Maen nhw wedi bod yn elusen sbeshal iawn i ni ac wedi rhoi lot o help i ni fel teulu so mae'n rhywbeth allwn ni neud fel teulu i roi yn ôl i'r elusen."
Ar ddiwrnod y ddamwain daeth dau hofrennydd i helpu, un o Gaerdydd ac un o'r Trallwng.
Meddai Laura: "Roedd ymateb ffantastig ar ddiwrnod y ddamwain. O'n i'n falch iawn i wybod bod cymaint o support wedi dod o Ambiwlans Awyr Cymru achos maen nhw'n literally yn ysbyty yn yr awyr. Maen nhw'n dod â'r ysbyty at y pwynt mae ishe fe.
"'Nath hwnna helpu ni drwy'r golled i ddeall bod popeth wedi ei neud ar y diwrnod i helpu Arwel.
"Mae'r profiad o gwrdd â'r criw a gweld yr hofrennydd wedi helpu i brosesu popeth welon ni ar y diwrnod ac i gael deall mwy am beth mae Ambiwlans Awyr Cymru yn gwneud.
"Mae'n wasanaeth mor bwysig i Gymru, ni'n lwcus iawn i gael e."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd3 Ebrill
- Cyhoeddwyd26 Ionawr