Prif weithredwr URC yn camu o'i rôl wedi diagnosis canser

Bydd Abi Tierney yn cymryd amser i ffwrdd o'i dyletswyddau er mwyn dechrau triniaeth canser
- Cyhoeddwyd
Bydd prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru (URC) Abi Tierney yn camu i ffwrdd o'i rôl yn dilyn diagnosis o ganser.
Fe fydd Tierney yn cymryd amser i ffwrdd o'i dyletswyddau er mwyn cychwyn triniaeth ar 22 Awst.
Bydd cadeirydd URC Richard Collier-Keywood yn cymryd rhywfaint o'i chyfrifoldebau.
"Dyw hyn ddim wedi bod yn benderfyniad hawdd, ond mae'n un mae'n rhaid i mi ei wneud er mwyn canolbwyntio'n llawn ar fy iechyd a gwella," meddai Tierney.
"Rwy'n ddiolchgar am y gefnogaeth rydw i eisoes wedi'i gael gan fy nheulu, ffrindiau a chydweithwyr, ac rwy'n hyderus yng ngallu'r tîm i barhau gyda'n gwaith yn ystod fy absenoldeb.
"Gofynnaf yn garedig am ddealltwriaeth a phreifatrwydd yn ystod yr amser hwn."
- Cyhoeddwyd11 Chwefror
- Cyhoeddwyd17 Awst 2023
- Cyhoeddwyd20 Mawrth
Cymerodd Tierney yr awenau ym mis Ionawr 2024 ac mae wedi goruchwylio cyfnod cythryblus ym myd rygbi Cymru.
Dywedodd Richard Collier-Keywood: "'Rwyf fi, ynghyd â'r bwrdd a phawb sy'n ymwneud â rygbi Cymru, yn dymuno'n dda i Abi dros y cyfnod hwn ac mae URC wedi ymrwymo i'w chefnogi.
"Yn fy rôl fel cadeirydd, byddaf yn parhau i fod â chyfrifoldeb cyffredinol dros URC ac er mwyn camu i mewn a rhoi'r lle sydd ei angen ar Abi, byddaf yn cymryd rhan fwy yn y dyfodol agos.
"Mae Abi a'r bwrdd wedi recriwtio tîm gweithredol cryf a fydd yn parhau i arwain URC o ddydd i ddydd."
Torri nifer y timau?
Daw absenoldeb Tierney wrth i gêm ddomestig Cymru gael ei hadolygu, gydag URC yn ystyried torri nifer y timau proffesiynol o bedwar i ddau.
Bydd Collier-Keywood a'r cyfarwyddwr rygbi a pherfformiad elitaidd, Dave Reddin, nawr yn goruchwylio'r broses honno.
Mae disgwyl i URC gyflwyno'r opsiwn maen nhw'n ei ffafrio yn fuan, ac yna bydd cyfnod ymgynghori am chwe wythnos cyn y bydd penderfyniad terfynol ym mis Hydref.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.