Achub golwg gofalwr wedi i Covid-19 atal ei driniaeth

  • Cyhoeddwyd
Terry Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna berygl i Terry Thomas fynd yn hollol ddall heb gael y driniaeth

Mae gofalwr 72 oed o Borthaethwy a rannodd bryder a rhwystredigaeth wedi i'r argyfwng coronafeirws ei atal rhag cael triniaeth syml i'w lygad bellach yn gallu gweld eto.

Collodd Terry Thomas yr olwg yn ei lygad dde dros hanner canrif yn ôl, ac roedd yn bryderus ynghylch gofalu am ei gymar ddifrifol wael wrth orfod aros am driniaeth cataract i'w lygad chwith.

Mae cwmni preifat bellach wedi rhoi'r driniaeth iddo am ddim ar ôl dod ar draws ei hanes ar BBC Cymru.

"Mae'n wych - dwi'n gallu gweld!" meddai Mr Thomas. "Dwi'n teimlo rhyddhad. Dwi'n teimlo'n llawer hapusach."

Gofalwr llawn amser

Cafodd Mr Thomas wybod ei fod angen y driniaeth ddwy flynedd a hanner yn ôl, ond cafodd ei chanslo ym mis Chwefror ac yna eto ar ddiwrnod cyntaf y clo cenedlaethol ym mis Mawrth.

Ers hynny cafodd ei gymar, June Lavelle-Lepsa gadarnhad ei bod â chlefyd Motor Neurone.

Gwaethygodd ei chyflwr yn gyflym nes ei bod bellach mewn cadair olwyn a methu siarad.

Roedd hynny'n golygu bod Mr Thomas yn gorfod gofalu amdani llawn amser, ond oherwydd ei gyflwr ei hun roedd yn cael trafferth darllen labeli meddyginiaeth Ms Lavelle-Lepsa.

Ffynhonnell y llun, Terry Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Terry Thomas methu darllen i'w gymar na gweld labeli ei meddyginiaeth wrth i'w olwg ddirywio

Gyda dim awgrym pa bryd y byddai ei driniaeth yn mynd yn ei blaen yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, fe rannodd Mr Thomas ei stori gyda BBC Cymru.

Cysylltodd Optegra, clinig llygad preifat ym Manceinion sydd hefyd yn gwneud gwaith i'r GIG, a phrynhawn Iau fe gafodd Mr Thomas driniaeth 15 munud i gael gwared ar y cataract.

"Nes i ddod allan o'r llawdriniaeth a mwya' sydyn ro'n i'n gallu gweld yr amser ar y cloc," meddai.

"Roedd y lliwiau'n llawer mwy llachar. Roedd o'n anhygoel - do'n i heb sylweddoli pa mor ddrwg oedd fy ngolwg."

Diolch i'w lawfeddyg

Mae wedi diolch i'r cwmni a'r llawfeddyg, Christopher Hemmerdinger am y llawdriniaeth.

Dywedodd Mr Hemmerdinger fod yr achos yn un a fyddai'n "cydio yn unrhyw un".

Ychwanegodd: "Byddai ei olwg wedi gwaethygu wrth i'r cataract waethygu. Roedd eisoes wedi mynd o olwg gymharol normal i safon lawer is na'r safon gyfreithiol i yrru."

Dywedodd cyfarwyddwr meddygol Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Arpan Guha: "Rydym yn siomedig na wnaethon ni allu rhoi triniaeth amserol i Mr Thomas, ond rydym yn falch o glywed ei fod bellach wedi cael ei lawdriniaeth."