System gyfiawnder Cymru 'yn dal pobl BAME yn amlach'

  • Cyhoeddwyd
person du mewn cyffionFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae pwyllgor o Senedd Cymru'n wynebu galwadau i ymchwilio i pam fod pobl o leiafrifoedd ethnig yn parhau i fod yn fwy tebygol o gael eu dal yn y system gyfiawnder.

Dywedodd Dr Robert Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru fod data sydd heb ei gyhoeddi o'r blaen yn dangos "ystod eang o broblemau sydd angen eu hateb yn syth".

Mae'n galw ar bwyllgor cydraddoldeb y Senedd i ymchwilio, gan ddweud nad yw'r mater wedi cael digon o sylw hyd yma oherwydd ei fod yn faes sy'n gorgyffwrdd â chyfrifoldebau Llywodraeth y DU.

Dywedodd y pwyllgor y byddan nhw'n ystyried sylwadau Dr Jones pan fyddan nhw'n cyfarfod nesaf.

'Wedi'i wreiddio'n ddwfn'

Er nad yw'r system gyfiawnder wedi ei datganoli mae elusennau BAME wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i daclo'r mater - rhywbeth maen nhw'n dweud sy'n "flaenoriaeth glir" iddyn nhw.

Roedd canfyddiadau Dr Jones yn cynnwys bod:

  • 13 achos stopio a chwilio am bob 1,000 person BAME yng Nghymru, o'i gymharu â 5 i bobl wyn;

  • 91 person du yn y carchar (am bob 10,000 o'r boblogaeth), o'i gymharu â 14 person gwyn, 28 person Asiaidd a 41 o dras gymysg;

  • Hyd cyfartalog dedfryd yng Nghymru yn 35 mis i berson tras gymysg, o'i gymharu â 33.8 mis i bobl Asiaidd, 30.4 mis i bobl ddu, ac 19.5 i bobl wyn;

  • 129 person du (am bob 10,000 o'r boblogaeth) dan oruchwyliaeth y gwasanaeth prawf yn 2019, o'i gymharu â 46 person gwyn, 48 person Asiaidd ac 80 o dras gymysg.

Dywedodd Dr Jones "nad oes dealltwriaeth glir nac awdurdodol ar hyn o bryd" o'r ffordd mae gwahanol gymunedau yng Nghymru yn dod i gyswllt â'r system gyfiawnder.

Ychwanegodd fod y canfyddiadau'n "tanlinellu pa mor bwysig yw cael ymchwiliad i'r gwahaniaethau hil" o fewn y system ar hyn o bryd.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl BAME yng Nghymru yn fwy tebygol o fod yn y carchar ac o fod wedi derbyn dedfryd hirach

Yn ôl Rocio Cifuentes, prif weithredwr EYST - elusen sy'n helpu pobl BAME ifanc yn ardal Abertawe - mae perygl nad yw'r llywodraeth yn cymryd cyfrifoldeb am y peth.

"Yng Nghymru fe ddylen ni ac fe allwn ni fuddsoddi llawer mwy yn ein gwasanaethau i gefnogi pobl ifanc, addysg i bobl ifanc, cynlluniau cymorth mentora," meddai.

"Os yw'r pandemig yma wedi dangos unrhyw beth i ni, un o'r pethau hynny yw y dylen ni geisio taclo anghyfartaledd sydd wedi'i wreiddio'n ddwfn mewn ffordd llawer mwy cadarn."

Dywedodd Ali Abdi o Gyngor Hil Cymru fod angen i'r system fod yn "decach" i bobl ifanc.

"Mae 'na bobl ifanc 'dyn ni'n ymwneud â nhw fydd efallai'n mynd i drwbl gyda'u ffrind, ond oherwydd eu bod nhw'n ddu fe allen nhw gael dedfryd lymach neu gael eu trin yn wahanol," meddai.

"Dyw hynny ddim yn deg. Mae'n cael effaith hir dymor ar y person ifanc, a'u perthynas gyda'r system gyfiawnder a'r heddlu."

Ymatebion y llywodraethau

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod cadw pobl ifanc du ac o leiafrifoedd ethnig eraill yn flaenoriaeth, a'u bod yn "gweithio'n galed o fewn meysydd datganoledig i ddylanwadu ar gyfiawnder a throsedd".

Ychwanegodd bod gan y llywodraeth gynllun cydraddoldeb hil, cwricwlwm newydd ar y gweill fydd yn pwysleisio diwylliant a hunaniaeth BAME, a chyllid ar gyfer prosiectau i helpu plant a phobl ifanc bregus.

Dair blynedd yn ôl fe wnaeth Adolygiad Lammy dynnu sylw at or-gynrychiolaeth pobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn y system gyfiawnder yng Nghymru a Lloegr.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd 35 o argymhellion ar gyfer diwygio'r system gyfiawnder yn rhan o adolygiad David Lammy AS

Tynnwyd sylw at y ffaith bod pobl BAME yn teimlo na fyddai'r system yn eu trin yn deg, ac roedd hynny'n cael effaith ar sut roedden nhw'n ymdrin â'r system - fel derbyn setliad y tu allan i'r llys, pledio'n euog er mwyn cael dedfryd lai, neu gymryd cyngor cyfreithiol am ddim.

Mewn ymateb i'r adroddiad hwnnw dywedodd Llywodraeth y DU y byddai anghyfartaleddau yn y system gyfiawnder yn cymryd amser i'w datrys, ond bod gwaith yn cael i'w wneud i gasglu data a cheisio deall y gwahaniaethau.

Yng Nghymru mae gan y lluoedd heddlu hefyd ymgyrchoedd i wella ymddiriedaeth, gyda rhai yn gwahodd pobl o gefndiroedd gwahanol i archwilio'u gwaith ac awgrymu gwelliannau.