Lleiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol o gael dirwyon Covid-19
- Cyhoeddwyd
Roedd pobl o gefndiroedd ethnig dros ddwy a hanner gwaith yn fwy tebygol o gael dirwy gan swyddogion heddlu yng Nghymru am dorri cyfyngiadau Covid-19 yn ystod y cyfnod clo.
Daw'r ffigyrau'n dilyn astudiaeth gan swyddogion o ystadegau ar gyfer y dirwyon gafodd eu rhoi dros gyfnod o ddeufis gan luoedd heddlu Cymru a Lloegr.
Yng Nghymru roedd pobl o gefndir BAME 2.7 gwaith yn fwy tebygol o gael eu dirwyo na phobl gwyn - ond mae hyn yn is na'r gwahaniaeth yn y gyfradd pan mae'n dod at yr heddlu'n stopio a chwilio pobl.
Dyfed Powys oedd y llu Cymreig gyda'r gyfradd uchaf - 4.7 - tra bod Heddlu'r De gyda'r isaf, sef 2.1. Cyfradd Heddlu'r Gogledd oedd 4.1, tra'i fod yn 3.4 yn ardal Heddlu Gwent.
Mae penaethiaid heddlu wedi dweud y gallai'r gwahaniaethau yn y gyfradd rhwng ardaloedd fod yn rhannol oherwydd bod llawer o ymwelwyr yn teithio i ardaloedd twristaidd ble mae'r boblogaeth o leiafrifoedd ethnig yn is.
Dirwyo dynion a phobl ifanc
Dangosodd y ffigyrau bod dros 10% o ddirwyon Heddlu Dyfed Powys yn ystod y cyfnod rhwng 27 Mawrth a 27 Mai wedi'u rhoi i bobl o leiafrifoedd ethnig, er bod pobl BAME yn llai na 3% o'r boblogaeth.
Fe wnaeth Dyfed Powys roi cyfanswm o 1,138 o ddirwyon i bobl am dorri rheolau Covid-19 dros y cyfnod hwnnw - mwy nag unrhyw lu heddlu arall yng Nghymru a Lloegr - gyda 58% yn mynd i bobl o du allan i'r ardal.
Er mai dim ond 251 dirwy wnaeth Heddlu'r Gogledd roi, fe wnaeth dros ddau draean o'r rheiny (69%) fynd i bobl o du hwnt i'r rhanbarth.
Ar y llaw arall dim ond 12% o ddirwyon Heddlu Gwent a 10% o ddirwyon Heddlu'r De aeth i bobl oedd ddim yn drigolion o'r ardaloedd hynny.
Ar draws Cymru a Lloegr roedd y gwahaniaeth yn y gyfradd dirwyon ar gyfer pobl BAME yn 1.6, gyda dynion a phobl ifanc hefyd ymhlith y rhai mwyaf tebygol o gael eu cosbi.
Roedd y gyfradd ar gyfer pobl BAME yn llawer uwch fodd bynnag mewn ardaloedd tebyg i Ddyfed Powys sydd yn boblogaidd ag ymwelwyr, gan gynnwys Cumbria, Gogledd Sir Efrog, a Sir Gaerhirfryn.
Rhoddwyd 70% o'r dirwyon i ddynion dan 45 oed - grŵp sydd ond yn cynrychioli 22% o'r boblogaeth - tra bod y gyfradd dirwyon ar gyfer dynion ifanc 18-34 oed dros bedair gwaith yn uwch na'r boblogaeth ar gyfartaledd.
Dywedodd Cadeirydd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, Martin Hewitt fod y ffigyrau yn golygu bod "cymunedau'n gallu craffu ar y data a holi cwestiynau i'w lluoedd lleol".
Ond ychwanegodd bod yr adroddiad yn un "cymhleth a bod angen ei ddehongli'n ofalus".
"Fe wnaeth lluoedd gwledig ac arfordirol sy'n denu twristiaid roi llawer mwy o ddirwyon i bobl oedd ddim yn byw yn yr ardal, sydd wedi effeithio'n fawr ar y gwahaniaeth rhwng pobl gwyn a phobl o leiafrifoedd ethnig o'i gymharu â lluoedd wnaeth ddirwyo llai o bobl o du allan i'w hardal," meddai.
Ychwanegodd fod yr heddlu ar y cyfan wedi ceisio darbwyllo pobl ac esbonio'r rheolau iddyn nhw gyntaf, ac mai "dewis olaf" oedd eu dirwyo nhw yn y rhan fwyaf o achosion.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd14 Mai 2020