Y Bencampwriaeth: Abertawe 2-0 Stoke

  • Cyhoeddwyd
Jay Fulton yn dathlu sgorio'i gôl gyntaf o'r tymorFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Jay Fulton yn dathlu sgorio'i gôl gyntaf o'r tymor

Fe gafodd Abertawe fuddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Stoke City, gan godi i ail safle'r Bencampwriaeth.

Collodd yr Elyrch sawl cyfle i rwydo cyn i Jay Fulton eu rhoi ar y blaen o fewn hanner awr.

Cafodd ymdrech Andre Ayew o gic rydd anuniongyrchol ei atal, ac fe wnaeth Jamal Lowe wastraffu cyfle gwych i ddyblu'r fantais.

Ond fe ddaeth ail gôl yr Elyrch wedi 87 o funudau, diolch i beniad Kasey Palmer.

Cyn y gêm roedd y ddau dîm yn seithfed ac wythfed safle'r tabl gyda'r un nifer o bwyntiau, ond mae Abertawe bellach yn ail i Reading gyda 15 o bwyntiau.