Rhybudd melyn am law trwm yn y rhan fwyaf o Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd tywydd newydd am law trwm sy'n debygol o effeithio ar fwyafrif Cymru.
Daeth un rhybudd melyn i rym am 09:00 fore Iau ac yn parhau tan 23:59 nos Wener.
Mae'n berthnasol i bob un o siroedd Cymru heblaw Wrecsam a'r Fflint.
Cafodd rhai ffyrdd eu cau yng Ngwynedd ddydd Iau, yr A4086 yn Nant Peris a'r A498 rhwng Beddgelert a Phen y Gwryd, oherwydd llifogydd.
Roedd dros 20 o rybuddion i fod yn barod am lifogydd wedi eu cyhoeddi gan Gyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol.
Mae rybuddion tebyg am law wedi'u cyhoeddi ar gyfer y penwythnos.
Fe allai 30-40 mm o law syrthio ar draws y 20 sir rhwng bore Iau a nos Wener.
Mae 50-80 mm o law'n debygol yn yr ucheldiroedd wrth i wyntoedd cryfion chwytho o'r de orllewin, a 100-150mm ym mynyddoedd a bryniau'r gogledd orllewin erbyn diwedd dydd Gwener.
Oherwydd yr amser o'r flwyddyn, mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio bod y gwynt a'r glaw'n debygol o achosi i'r coed golli mwy o'u dail. Gallai hynny gynyddu'r posibilrwydd o lifogydd wrth i ddraeniau a ffosydd flocio.
Mae'r rhybudd yn berthnasol i'r siroedd canlynol:
Abertawe
Blaenau Gwent
Bro Morgannwg
Caerdydd
Caerfyrddin
Caerffili
Casnewydd
Castell-nedd Port Talbot
Ceredigion
Conwy
Dinbych
Gwynedd
Merthyr Tudful
Mynwy
Pen-y-bont ar Ogwr
Penfro
Powys
Rhondda Cynon Taf
Torfaen
Ynys Môn
Yr un siroedd fydd yn gweld glaw trwm wrth i rybudd gwahanol ddod i rym am 00:00 fore Sadwrn tan 21:00 nos Sadwrn.
Mae'r arbenigwyr yn darogan 20-30 mm yn rhagor o law yn gyffredinol, 40-60 mm ar dir uwch, ac 80-100 mm mewn ardaloedd mynyddig - yn arbennig, unwaith yn rhagor, yn y gogledd orllewin.
Mae rhybudd arall wedyn yn darogan patrwm tebyg ddydd Sul, rhwng 09:00 a 23:59, ond mae'r rhybudd yma hefyd yn cynnwys Sir Wrecsam, sy'n golygu taw ond Sir Y Fflint fydd yn osgoi tywydd garw'r dyddiau nesaf.