Arlywydd o Affrica yn ysbrydoli brwydro dros y Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Yn 2018 fe ffodd Joseph Gnagbo o Affrica i Gymru.
Roedd chwyldro milwrol yn digwydd yn ei famwlad, Traeth Ifori, a dyma orfod gadael ei deulu gan gynnwys ei blant i geisio lloches.
Fe symudodd i Gaerdydd i fyw a buan iawn daeth Joseph i ddysgu am hanes a diwylliant Cymru, gan ddisgyn mewn cariad â'r iaith Gymraeg.
A hithau'n Fis Hanes Pobl Dduon, mae Joseph yn sôn am sut y gwnaeth Arlywydd cyntaf Burkina Faso ddylanwadu arno.
Wrth ddewis sôn am Thomas Sankara, y capten milwrol oedd yn arwain Burkina Faso rhwng 1983 nes ei farwolaeth yn 1987, mae Joseph yn gallu cymharu nifer o egwyddorion a chynlluniau Sankara gyda'r hyn sy'n digwydd yng Nghymru heddiw.
"Fe frwydrodd Thomas Sankara i gael annibyniaeth go iawn i bobl Burkina Faso.
"Roedd e'r oedd y person cyntaf i gefnogi hawliau menywod ac i roi gwaith i fenywod o fewn y llywodraeth."
Ar ôl symud i Gymru, fe lwyddodd Joseph i ddysgu siarad Cymraeg yn rhugl mewn cyfnod byr iawn.
Roedd eisoes yn gallu siarad pum iaith ond roedd yn teimlo'r iaith Gymraeg yn "tyfu y tu mewn iddo" wrth ymuno â'r dosbarthiadau a gwirfoddoli gyda mudiad Cymdeithas yr Iaith.
"Mae'n bwysig iawn i ni gofio am Thomas Sankara," meddai. "Mae'r brwydrau am annibyniaeth yn debyg iawn i beth sy'n digwydd yng Nghymru heddiw; y frwydr i achub yr iaith ac i sicrhau tegwch i bawb mewn cymdeithas.
"Yn sicr dyma'r person sydd wedi fy ysbrydoli i fod y person ydw i heddiw.
"Fe gollodd ei fywyd yn ifanc iawn ond roedd fe 'neith ei egwyddorion a'i syniadau gwleidyddol aros gyda mi am byth."
Hefyd o ddiddordeb: