Cyflwr prin yn 'cuddio personoliaeth' merch ifanc

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mudandod dethol 'yn cael effaith fawr' ar fywyd Elsi

Mae teulu merch ifanc sy'n byw gyda mudandod dethol yn gobeithio gwella dealltwriaeth o'r cyflwr er mwyn helpu eraill.

Mae Elsi yn bump oed ac wrth ei bodd yn chwarae gyda'i brawd a'i chwaer ac mae'n gwneud i'w theulu chwerthin bob dydd.

Mae hi yr un peth ag unrhyw ferch fach arall ond y tu hwnt i bedair wal y cartre' ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae Elsi'n wahanol.

Mae hi'n byw gyda chyflwr mudandod dethol sy'n golygu nad yw hi'n gallu siarad gyda phobl y tu hwnt i deulu agos ac ambell ffrind ysgol.

'Rhewi a ddim yn gallu siarad'

Yn ôl Dafydd Edwards, tad Elsi, fe sylweddolon nhw fod Elsi'n wahanol pan oedd hi yn yr ysgol feithrin.

"Y peth cynta' mae pobl yn meddwl yw bod plentyn swil gyda chi ond fe ddechreuon ni sylweddoli ei fod e tamaid bach yn fwy na hynna a'i bod hi'n rhewi a ddim yn gallu siarad.

"Ddim bod hi ddim yn dewis siarad, jyst bod hi ddim yn gallu siarad mewn gwahanol sefyllfaoedd."

Mae'r cyflwr sy'n gysylltiedig â gorbryder yn effeithio ar un ymhob 140 o blant, dolen allanol.

Mae'n fwy cyffredin ymhlith merched ac mewn teuluoedd sy'n siarad fwy nag un iaith.

Ffynhonnell y llun, Hannah Edwards

"Mae hi'n methu darllen yn yr ysgol, methu siarad gydag oedolion, ac mae hynna'n cynnwys lot o aelodau'n teulu ni hefyd," meddai ei mam, Hannah.

"Mae hi'n methu gofyn am bethau yn yr ysgol, methu gofyn am fynd i'r tŷ bach felly mae e yn cael effaith fawr arni."

Mae'r teulu'n dweud eu bod nhw wedi cael cefnogaeth wych a bod yr ysgol wedi addasu i anghenion Elsi.

"Maen nhw'n gadael iddi fynd i'r tŷ bach heb ofyn. Maen nhw wedi addasu beth maen nhw'n neud er mwyn 'neud yn siŵr bod hi'n gyfforddus a dyna sy'n hollbwysig gyda phlant sy'n diodde' gyda mudandod dethol, eu bod nhw'n teimlo'r gefnogaeth yna heb bwysau i gyfathrebu neu siarad."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r teulu ceisio helpu Elsi yn gynnar, fel bod ei bywyd "yn haws pan mae'n hŷn" meddai Dafydd Edwards

Yn ôl y teulu mae'n bwysig trin y cyflwr yn ifanc.

"Mae e'n rhywbeth sy'n gallu aros gyda chi mewn i'r arddegau neu pan y'ch chi'n oedolyn hefyd," meddai Dafydd.

"Ni'n ceisio trin e'n gynnar gydag Elsi fel gall ei bywyd fod yn haws pan mae'n hŷn.

"Mae'n hapus ac mae'n ddoniol - y trueni yw bod pobl eraill ddim yn cael gweld ei phersonoliaeth hi.

"Mae'n hoffi chwarae gyda'i chwaer a'i brawd bach ac mae'n siarad yn iawn gyda ni adre.

"Ni'n gobeithio dros amser bydd hi'n gallu neud hynna tu allan i'r tŷ hefyd."

Rhedeg 100 milltir

Mae'r teulu'n awyddus i godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr er mwyn sicrhau nad yw plant eraill yn diodde'n dawel.

Mae Hannah wedi bod yn gwneud hynny trwy redeg 100 milltir yn ystod mis Hydref.

Mae eraill wedi ymuno gyda hi ar y we a thros 1,000 o filltiroedd wedi eu cwblhau erbyn hyn.

"Ni'n ymwybodol fod plant eraill ddim cweit mor lwcus jyst achos diffyg dealltwriaeth, a 'na pam dwi'n neud y sialens. Os oes un plentyn bach arall yn cael diagnosis, neu athro neu athrawes yn dysgu sut i gefnogi plentyn, bydd hynny'n ddigon i neud lan am y milltiroedd yn y glaw.

"Ni'n prowd iawn o Elsi, a'r ffaith bod hi'n mynd mas mor ddewr bob dydd heb gwyno, ac os yw hi'n gallu neud 'na, dwi'n siŵr bod fi'n gallu rhedeg can milltir cyn dydd Sadwrn."