Tri o'r un teulu wedi marw o Covid yn Nhreorci

  • Cyhoeddwyd
Darren a Dean Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw y ddau frawd, Darren a Dean Lewis, o fewn dyddiau i'w gilydd

Mae tri aelod o'r un teulu yn Nhreorci yn y Rhondda wedi marw o Covid-19 o fewn dyddiau i'w gilydd.

Bu farw Gladys Lewis a oedd yn 74 oed yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ddydd Iau, 29 Hydref. Y diwrnod canlynol bu farw ei mab Dean adref yn Nhreorci a ddechrau'r wythnos hon bu farw ei frawd Darren Lewis.

Roedd y tri ohonynt yn byw yn yr un bloc o fflatiau yn Nhreorci. Mae aelodau eraill o'r teulu yn hunan-ynysu.

'Ddim yn ymdopi'

Dywed Claire Lewis, gweddw Dean bod y teulu yn cael trafferth ymdopi gyda'r hyn sydd wedi digwydd. Ychwanegodd bod y teulu wedi bod yn hynod ofalus oherwydd oedran Gladys a'i gŵr David, sy'n 81 oed, a bod Darren yn byw gyda chyflwr Downs.

Darren Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Bu Darren Lewis farw yr wythnos wedi i'w fam a'i frawd farw yr wythnos diwethaf o Covid

Mae dau o blant Claire Lewis wedi cael prawf positif o'r haint ac mae trydydd yn dangos symptomau.

"Mae'n anodd delio â'r galar tra'n hunan-ynysu," meddai.

Dywedodd hefyd nad yw ei thad-yng-nghyfraith yn gallu ymdopi â marwolaeth ei wraig a'i ddau fab a'i fod e'n dweud y dylai fe fod wedi cael ei gipio gan yr haint yn hytrach na nhw.

'Pobl ddim yn deall y niwed'

David a Gladys Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae David Lewis yn 81 oed ac roedd ei ddiweddar wraig, Gladys, yn 74

"Mae'n rhwystredig," ychwanegodd Claire Lewis, "nad yw pobl yn cymryd yr haint o ddifrif drwy beidio dilyn y rheolau a dyw eraill ddim yn deall faint o niwed y gall yr haint ei achosi."

Mae tudalen i godi arian i dalu am yr angladdau wedi cael ei sefydlu. Y tebyg yw y byddant yn cael eu cynnal yn ddiweddarach yn ystod y mis gyda dim ond 30 yn bresennol oherwydd cyfyngiadau Covid.

Dywed Ms Lewis ei bod yn hynod o ddiolchgar i'r gymuned leol ond ei bod yn anodd ymdopi heb gymorth aelodau eraill o'r teulu.

Yn Rhondda Cynon Taf mae 553 o bob 100,000 o bobl wedi cael prawf positif gan roi'r sir yn safle rhif naw o ran yr ardaloedd sy'n dioddef waethaf yn y DU.