Covid-19: Nifer uchaf o farwolaethau wythnosol ers Mehefin

  • Cyhoeddwyd
Stryd
Disgrifiad o’r llun,

Caerdydd yw'r ardal gyda'r nifer uchaf o farwolaethau Covid-19 yng Nghymru - 415 i gyd

Mae 65 o farwolaethau yn rhagor sy'n gysylltiedig â Covid-19 wedi eu cofnodi yng Nghymru dros yr wythnos ddiwethaf, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae hynny'n gynnydd ar y 47 marwolaeth gafodd eu cofnodi am yr wythnos flaenorol, a dyma'r nifer uchaf o farwolaethau wythnosol ers dechrau Mehefin.

Roedd 25 marwolaeth yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn cynnwys 23 yn yr ysbyty, am yr wythnos hyd at 23 Hydref.

Roedd 12 marwolaeth yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan ac 11 yr un yn ardaloedd byrddau iechyd Betsi Cadwaladr a Chaerdydd a'r Fro.

Bu pum marwolaeth yn ardal Bwrdd Iechyd Bae Abertawe ac un farwolaeth yn yr ysbyty yn ymwneud â phreswylydd o Bowys dros yr wythnos ddiwethaf meddai'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Roedd marwolaethau ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg mewn ysbytai am yr un cyfnod yn cynnwys 13 o drigolion Rhondda Cynon Taf, pump o Ben-y-bont ar Ogwr a dau o Ferthyr Tudful.

Wrth edrych ar farwolaethau 'gormodol' - sef marwolaethau o bob achos yn uwch na'r hyn y byddem fel arfer yn disgwyl ei weld - roedd 33 yn fwy (5.3%) na'r cyfartaledd pum mlynedd yng Nghymru yr wythnos hon.

Eleni bu 2,248 o farwolaethau yn fwy na'r cyfartaledd ar hyd a lled Cymru, ac roedd marwolaethau Covid yn 9.8% o'r holl farwolaethau gafodd eu cofnodi hyd yma.

Erbyn hyn mae ardal Rhondda Cynon Taf wedi gweld cyfanswm o 374 o farwolaethau Covid-19 ers i'r pandemig ddechrau.

Y gyfradd yn yr ardal yw 155.7 marwolaeth fesul 100,000 o'r boblogaeth - dyma'r pumed uchaf yng Nghymru a Lloegr.

Caerdydd yw'r ardal gyda'r nifer uchaf o farwolaethau Covid-19 yng Nghymru - 415 i gyd.

Drwy Gymru, bu 2,762 o farwolaethau yn ymwneud â Covid-19 hyd at 23 Hydref.

Nifer y marwolaethau hyd at 23 Hydref ac yn cael eu cofrestru hyd at 31 Hydref oedd 2,806 meddai'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Darlun 24 awr diwethaf

Yn y cyfamser mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi bod 1,119 o bobl wedi cael prawf positif am Covid-19 yma dros y 24 awr ddiwethaf.

Cafodd pedair marwolaeth yn ymwneud â coronafeirws eu cofnodi dros yr un cyfnod.

O'r achosion newydd, roedd 200 yn Rhondda Cynon Taf, 129 yng Nghaerdydd a 103 yn Abertawe.

Mae 54,456 o bobl wedi cael prawf positif am coronafeirws yng Nghymru ers dechrau'r pandemig bellach, a 1,895 o'r rheiny wedi marw.

Cafodd 10,212 o brofion Covid-19 eu cynnal yng Nghymru ddydd Llun.