Llyfrgell Gen: 'Angen arian i osgoi colli swyddi'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Llyfrgell Genedlaethol angen mwy o gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru er mwyn osgoi colli nifer sylweddol o swyddi, yn ôl y penaethiaid.
Dywedodd dirprwy brif weithredwr y sefydliad eu bod mewn perygl o orfod torri 30 o swyddi yn y flwyddyn nesaf.
Fe wnaeth adolygiad diweddar, oedd wedi'i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, ddod i'r canlyniad bod angen "sylw brys" ar gyllid y llyfrgell.
Dywedodd yr adroddiad bod incwm y Llyfrgell Genedlaethol wedi gostwng 40% mewn termau real rhwng 2008 a 2019.
Roedd y llyfrgell hefyd wedi colli 23% o'i staff yn yr amser hwnnw.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas bod y llywodraeth wedi gweithio i osgoi toriadau i'r sefydliad.
'Dibynnol ar lefel y nawdd'
Dywedodd y prif weithredwr Pedr ap Llwyd wrth Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Senedd ddydd Iau y bydd mwyafrif argymhellion yr adroddiad wedi'u rhoi ar waith erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.
"Wedi dweud hynny, mae nifer o'r argymhellion yn hollol ddibynnol ar lefel y nawdd gan Lywodraeth Cymru," meddai.
Ychwanegodd dirprwy brif weithredwr y Llyfrgell Genedlaethol, David Michael, wrth y pwyllgor y bydd angen £1.5m yn rhagor mewn refeniw i osgoi toriadau staff a rhoi'r un codiad cyflog i staff â'r hyn sydd wedi'i roi i weision sifil.
"Ry'n ni wedi bod yn mynd trwy gyfres o asesiadau i weld sut allwn ni dorri ein costau ymhellach ond mae ein grant wedi aros ar yr un lefel tra bo'n costau cyflog wedi cynyddu," meddai.
"Ry'n ni mewn sefyllfa nawr ble mae'r grant ry'n ni'n ei dderbyn yn llai na'r hyn y derbynion ni yn 2006.
"Ry'n ni wedi cyrraedd y pwynt ble bydd yn rhaid i ni gymryd cam arall i lawr o ran niferoedd staff.
"Ry'n ni wedi mynd o bron i 300 i 225, a ry'n ni'n edrych ar golli 30 swydd arall yn y 12 mis nesaf er mwyn goroesi'n ariannol."
"Os ydyn ni'n colli 30 o swyddi mae'n mynd i gael effaith fawr ar ein gallu i gyflawni'r hyn sy'n cael ei ofyn ohonom."
'Ddim wedi gwneud toriadau'
Ond fe wnaeth yr Arglwydd Elis-Thomas ddweud nad oes toriadau wedi'u gwneud i gyllid sylfaenol y Llyfrgell Genedlaethol.
"Dydw i ddim yn derbyn ein bod wedi gwneud toriadau," meddai wrth y pwyllgor.
"Yr hyn ry'n ni wedi'i wneud ydy ystyried a chynnal y lefel o nawdd ar gyfer y llyfrgell - nid mewn termau real, ond does yna'r un sefydliad oni bai am iechyd, gofal cymdeithasol, addysg, hyfforddiant a'r economi wedi derbyn unrhyw beth mwy na nawdd sefydlog.
"Yr hyn wnes i geisio sicrhau i'r sefydliadau hyn ydy nad ydyn ni'n gwneud toriadau pellach a dydw i ddim yn credu bod hynny wedi digwydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2019