'Sioc a hunllef': Profiad teulu ar ôl dal Covid-19
- Cyhoeddwyd
Mae yna apêl i bobl ddilyn y canllawiau atal lledu coronafeirws a "meddwl am y bobl 'dach chi'n 'i garu" gan deulu o Ynys Môn wedi i bum aelod ddal yr haint.
Mae Iris Williams, o Lannerch-y-medd, wedi disgrifio'r "sioc" o sylweddoli bod ei gŵr 64 oed, Ifan, sy'n byw gyda chlefyd siwgr, yn ddifrifol wael gyda'r feirws.
Bu'n rhaid iddo gael triniaeth mewn Uned Ddibyniaeth Uchel ond mae bellach wedi gwella digon i symud i ward Covid-19 arall yn Ysbyty Gwynedd, Bangor.
"Ddywedon nhw wrtha'i, 'mae o'n wael iawn, allai hi fynd unrhyw ffordd'," meddai Mrs Williams.
Mi fuodd Mrs Williams ei hun yn sâl gyda'r feirws am ddyddiau cyn gwella, ac mi gafodd eu mab awtistig, Dylan, ei heintio hefyd.
Cafodd ei merch, Mared Hughes, a'i gŵr hithau symptomau ysgafn, "debyg i'r ffliw".
Does gan y teulu ddim syniad o le ddoth yr haint.
"Ar y dydd Mercher, pan gathon ni y results, o'dd Ifan yn giami ac aeth o i'w wely. A chododd o ddim wedyn," meddai Mrs Williams.
"O'n i'n i weld o yn y gwely bob dydd, wedyn erbyn w'sos i heddiw o'n i'n gwybod bod rhywbeth mawr o'i le.
"Toedd o'm yn bwyta, toedd o'm yn yfad, toedd o'm yn cymryd ei dabledi, 'mond cysgu.
"Ar y p'nawn dydd Iau w'sos dwytha, ers i i'r llofft... mi gododd i fyny, ond oedd o'n sbïo drwydda fi. Toedd o'm efo fi."
Cafodd Mr Williams ei ruthro i'r ysbyty, ac yna daeth difrifoldeb y sefyllfa'n amlwg.
"Nes i ffonio bore dydd Gwener, ac mi wnes i ddychryn," meddai Mrs Williams.
"Ces i gymaint o sioc. Do'n i ddim 'di sylweddoli pa mor sâl oedd o."
Ychwanegodd: "'Da ni 'di priodi rŵan ers 42 o flynyddoedd, a 'dwi erioed 'di weld o'n sâl. O'dd o'n druenus, d'eud y gwir - trist ei weld o."
"Mae be' sy' 'di digwydd yn tŷ ni, i Ifan, mae o wedi bod yn hunllef yr w'sos diwethaf 'ma."
Dywedodd Mared Hughes: "Dwi'm yn meddwl bo' fi 'di teimlo gymaint o ofn erioed o'r blaen. Doedd o ddim yn Dad.
"Oedd o'n drist ofnadwy i weld o'n gorfod mynd [ar ben] ei hun i'r ysbyty."
Tydi'r teulu heb weld Mr Williams ers iddo fynd i'r ysbyty, ond maen nhw'n ddiolchgar am y gofal sy'n golygu ei fod wedi gallu gadael yr Uned Ddibyniaeth Uchel.
"Mae o'n lwcus bod o 'di mynd i fewn pan na'th o," meddai ei wraig. "Dwi'm yn meddwl fysa fo efo ni heddiw [fel arall]."
Mae'r teulu'n pwysleisio'r angen i bawb ddilyn y canllawiau i warchod eu hunain a'i gilydd rhag y feirws.
Dywed Mared Hughes bod hi'n "bwysig i chi fel unigolyn i gymryd cyfrifoldeb dros eich hun, a phenderfynu sut 'da chi'n cadw pellter ac yn gwisgo masg, a just bod yn hollol ofalus.
"Dwi'n meddwl bod o mor bwysig nid yn unig i feddwl am chi'ch hun, ond i feddwl am y bobl 'da chi'n garu hefyd."
Dangosodd ffigyrau newydd ddydd Iau bod mwy o gleifion Covid-19 yn ysbytai Cymru ar hyn o bryd nag yn ystod ton gyntaf y feirws yn y gwanwyn.
Er bod nifer achosion yn gymharol isel yng ngogledd Cymru, cafodd cynnydd o 48% ei gofnodi'r wythnos ddiwethaf yn nifer y cleifion coronafeirws sy'n cael gofal dwys yn ysbytai'r bwrdd sy'n gwasanaethu'r rhanbarth, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd30 Medi 2020