Goroesi Covid-19: 'Fy mab wedi achub fy mywyd'
- Cyhoeddwyd
Mae menyw a dreuliodd 45 diwrnod ar beiriant anadlu ar ôl cael coronafeirws wedi dweud bod ei mab wedi achub ei bywyd trwy wneud iddi fynd i'r ysbyty.
Roedd Julia Brockway - 50 oed o ardal Glyn-nedd, Castell-nedd Port Talbot - yn credu bod ganddi haint ar y frest pan aeth yn sâl ym mis Mawrth.
Ond gorchmynnodd ei mab David, 18, iddi fynd i Ysbyty Treforys lle treuliodd dros ddau fis mewn gofal dwys.
"Dywedodd meddygon wrtha i ei fod e wedi achub fy mywyd," meddai Julia.
Fe gollodd Julia bedair stôn (25kg) ac mae'n dal yn ei chael hi'n anodd i gerdded a bwyta.
Mae hi'n erfyn ar bobl i ddilyn rheolau pellhau cymdeithasol ac i gydymffurfio gyda'r cyfyngiadau'n lleol.
"Rwy'n edrych ar bobl heddiw sydd ddim yn gwisgo masgiau ac rydw i'n teimlo'n horrified," meddai.
"Mae angen i chi wisgo mwgwd, mae angen i chi atal y torfeydd, mae angen i chi wrando ar y llywodraeth.
"Rwy'n un o'r rhai lwcus i oroesi Covid ond coeliwch fi mae yna filoedd allan yna sydd heb wneud."
'Gwrandewch ar y canllawiau'
Dywed Julia fod meddygon wedi rhybuddio'r teulu mai dim ond 10% o siawns o oroesi'r salwch oedd ganddi.
"Dydw i ddim yn ceisio dychryn unrhyw un. Gall Covid-19 eich lladd chi ac roeddwn i ar beiriant anadlu am 45 diwrnod," meddai.
"Gwrandewch ar y canllawiau, efallai y byddech chi'n meddwl na fydd yn digwydd i chi, ond fe ddigwyddodd i mi, felly beth yw'r siawns y gallai ddigwydd i chi."
Mae Julia wedi bod yn derbyn triniaeth arbenigol gartref.
Mae'n gynllun newydd a ddyluniwyd ar gyfer cleifion sy'n dioddef o Covid a salwch eraill tymor hir.
Mae hi wedi colli ei nerth yn ei chyhyrau am ei fod wedi bod yn gorwedd yn anymwybodol yn yr ysbyty am gyhyd ac mae angen help arni gyda thasgau bob dydd.
"Y meddygon, y nyrsys a fy nheulu yw'r arwyr," meddai. "Fe wnaethon nhw fy nghadw i fynd pan oeddwn i eisiau rhoi'r gorau iddi, doeddwn i ddim eisiau'r boen yn fy nghoesau."
'Cryfder anghredadwy'
Pan aeth Julia i'r uned gofal dwys, roedd rheolau Covid yn golygu nad oedd ei theulu'n cael ei gweld.
A phan welodd ei gŵr, David, Julia o'r diwedd ar alwad Facetime wedi'i threfnu gan staff, prin yr oedd yn adnabod ei wraig.
Roedd ei gwallt coch gwallt hir wedi disgyn allan ac roedd hi wedi mynd o 13 stôn a hanner i lai na 10.
Dywed David ei fod yn dal i fethu credu bod ei wraig wedi goroesi.
"Allwn i ddim bod yn fwy prowd ohoni," meddai, "mae'r cryfder y mae hi'n dod o hyd iddo trwy'r feirws yma, mae wedi bod yn anghredadwy."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd6 Mai 2020
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2020