Claf wedi achosi £50,000 o ddifrod i ysbyty ar ôl tanio sigarét

  • Cyhoeddwyd
gwelyFfynhonnell y llun, CPS
Disgrifiad o’r llun,

Fe achosodd y tân £47,500 o ddifrod wedi'r digwyddiad ym mis Mai 2019

Mae dyn wedi'i garcharu am bum mlynedd ar ôl cyfaddef iddo achosi tân mewn ysbyty trwy gynnau sigarét.

Roedd Lee Williams, o Dreherbert yn Rhondda Cynon Taf, yn gwisgo mwgwd ocsigen pan oleuodd y sigarét ar ward yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod y tân wedi achosi difrod gwerth bron i £50,000.

Plediodd yn euog i ymosod ar weithiwr brys a llosgi bwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd.

Bu'n rhaid i 38 o gleifion adael ar ôl i'r tân gydio yn y ward, a gaewyd wedi hynny am bythefnos ym mis Mai 2019.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Lee Williams mai ei benderfyniad ef oedd ysmygu yn yr ysbyty

Roedd Williams, 44, wedi bod yn derbyn triniaeth am bythefnos ar ward C5 yn yr ysbyty pan ddigwyddodd y tân.

Clywodd y llys fod Williams wedi cael gwybod ar dri achlysur blaenorol nad oedd yn cael ysmygu ar y ward, ond dywedodd: "Dwi ddim yn poeni, fy mhenderfyniad i yw cael sigarét."

Ddiwrnod cyn y tân cafodd ei weld yn ei wely gyda sigarét wedi'i oleuo, ond roedd yn ymddangos ei fod yn cysgu.

Aeth nyrs â'r sigarét wedi'i oleuo i ffwrdd a chafodd rybudd eto rhag ysmygu yn yr ysbyty.

Dywedodd yr erlynydd Andrew Kendall wrth y llys: "Gorfodwyd y ward i gau am bythefnos a chafodd staff meddygol driniaeth ar gyfer anadlu mwg."

Ffynhonnell y llun, CPS
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i 38 o gleifion eraill adael mewn mwg trwchus

Ychwanegodd fod ymchwiliad wedi canfod mai "ysmygu wrth ddefnyddio mwgwd ocsigen" oedd "achos tebygol" y tân.

Achosodd y tân werth £47,500 o ddifrod ac fe wnaeth y cau "ychwanegu pwysau at weddill yr ysbyty".

Dioddefodd Williams drwyn du ac anafiadau i'w geg ar ôl y tân.

Dywedodd Laurence Jones, wrth amddiffyn, y gallai Williams "fod wedi drysu trwy hunan-feddyginiaeth".

Dywedodd y Barnwr David Wynn Morgan: "Fe wnaethoch chi beryglu bywyd y meddyg a ruthrodd i'ch trin chi, y ddwy nyrs a helpodd, y staff diogelwch a ddiffoddodd y tân, a'r 38 o gleifion y bu'n rhaid iddyn nhw adael yn y mwg trwchus."