Cap cyntaf dros Yr Eidal i lanc o'r Preseli

  • Cyhoeddwyd
SVFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Stephen Varney yn gymwys i chwarae dros yr Azzuri gan fod ei fam yn Eidales

Mae teulu chwaraewr rygbi ifanc o fro'r Preselau yn dathlu ar ôl iddo ennill ei gap llawn cyntaf dros dîm rhyngwladol yr Eidal.

Cafodd Stephen Varney ei addysg yn Ysgol y Preseli, a bu'n chwarae i nifer o dimau Clwb Rygbi Crymych.

Ond erbyn hyn mae'r mewnwr yn gwisgo crysau Caerloyw a'r Azzuri.

Er ei fod yn chwaraewr ifanc addawol, chafodd fawr o gyfle i gynrychioli timau ieuenctid y Scarlets.

Ar un adeg, fe wnaeth Stephen roi'r gorau i rygbi, ond fe benderfynodd ail-afael yn y gamp ar ôl cael lle yng Ngholeg Hartpury.

Fe aeth ymlaen wedyn i chwarae i dîm llawn Caerloyw yng nghwmni sêr fel Danny Cipriani.

'Trueni oedden ni ddim yna i weld e'

Enillodd ei gap cyntaf brynhawn Sadwrn wrth i'r Eidal golli yn erbyn Yr Alban - ag yntau ond yn 19 oed.

Ym mis Ionawr eleni, cafodd Stephen ei enwi'n seren y gêm i dîm dan-20 Yr Eidal yn erbyn Cymru ym Mae Colwyn.

Ffynhonnell y llun, Ysgol y Preseli
Disgrifiad o’r llun,

Stephen Varney ar gefn sgarmes symudol tîm Ysgol y Preseli yn ei arddegau

Mae Stephen yn fab i gyn-flaenasgellwr Castell Nedd, Adrian Varney, ond mae'n gymwys i chwarae i'r Eidal gan fod ei fam, Valeria, yn Eidales.

Roedd hen dad-cu Stephen yn garcharor rhyfel yng Nghymru.

"Ni fel teulu yn hapus iawn i weld Stephen yn cael cap cyntaf - oedd hi'n drueni oedden ni ddim yna i weld e, ond gobeithio yn y dyfodol gawn ni ei weld e'n chwarae," meddai Adrian.

Ychwanegodd fod aelodau Eidalaidd y teulu yn "llefain pan welon nhw fe yn canu'r anthem".

Dywedodd Adrian nad oedd yn siomedig ei fod wedi dewis chwarae dros Yr Eidal yn hytrach na Chymru: "Mae'n rhaid i ti gymryd y siawnsis ti'n cael mewn bywyd."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd tad Stephen, Adrian Varney yn gyn-chwaraewr proffesiynol ei hun

Dywedodd Andrew 'Togo' Phillips, ei gyn-hyfforddwr yng Nghlwb Rygbi Crymych, fod Stephen yn ymroddedig pan yn iau.

"Roedd e'n arweinydd ac roedd e'n benderfynol," meddai.

"Doedd e ddim yn yfed ar ôl gemau, roedd e'n bleser i'w hyfforddi, a doedd e ddim yn stopio siarad yn yr ymarferion!"