'Bylchau mawr' mewn adnoddau dysgu BAME
- Cyhoeddwyd
Mae yna ormod o ffocws ar gaethwasiaeth a hanes yr Ymerodraeth Brydeinig mewn adnoddau dysgu sy'n ymwneud â phrofiadau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, yn ôl adroddiad newydd.
Yn ôl grŵp gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru mae yna "fylchau mawr" o ran adnoddau.
Mae'n crybwyll diffyg penodol mewn meysydd Iechyd a Lles, Mathemateg a Rhifedd, a Gwyddoniaeth a Thechnoleg.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n ystyried yr argymhellion yn fanwl.
Sefydlwyd y grŵp, dan gadeiryddiaeth yr Athro Charlotte Williams o Brifysgol Bangor, yng Ngorffennaf i edrych ar sut y byddai cyfraniadau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) yn cael eu hadlewyrchu yn y cwricwlwm newydd o 2022.
Adnoddau dysgu
Mae'r adroddiad cyntaf yma'n canolbwyntio ar yr adnoddau dysgu sydd ar gael ar hyn o bryd, cyn cyhoeddi adroddiad terfynol fydd yn canolbwyntio ar yr hyfforddiant sydd ei angen ar athrawon.
Mae'r adroddiad yn galw am newid i'r "naratif ynghylch addysgu themâu Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig", ac am adnoddau sy'n canolbwyntio ar "hanesion ehangach cymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru" yn ogystal â rhoi sylw i faterion fel caethwasiaeth a gwladychiaeth.
Yn ôl yr adroddiad mae canolbwyntio ar ddigwyddiadau negyddol yn unig mewn hanes yn gallu golygu bod dysgwyr o gefndir lleiafrif ethnig yn gweld eu hunain mewn ffordd negyddol.
Dim ond 11 o adnoddau am hanes du oedd ar wefan Hwb, sy'n ffynhonnell adnoddau dysgu i athrawon Cymru.
Yn ôl yr adroddiad roedd y rhan fwyaf "yn hen ffasiwn, heb ddigon o ddeunydd ategol i athrawon, a ddim yn berthnasol iawn i Gymru".
Roedd gan y grŵp bryderon hefyd am ansawdd y cyfieithiadau Cymraeg.
Cwricwlwm newydd
Dywedodd yr adroddiad bod y rhyddid fydd gan ysgolion wrth benderfynu ar gynnwys yr hyn mae'n nhw'n dysgu dan gwricwlwm newydd Cymru yn golygu bod perygl y byddai themâu yn ymwneud â Phobol Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn cael eu hanwybyddu.
"Er y bydd dysgu am amrywiaeth, hunaniaeth a pherthyn, cyfiawnder a chydraddoldeb, hawliau a gweithredu cymdeithasol yn orfodol yng nghwricwla ysgolion, nid oes unrhyw ofyniad statudol i addysgu testunau penodol ynghylch hanes hiliaeth ac amrywiaeth, er enghraifft hanes caethwasiaeth neu'r Holocost", meddai'r adroddiad. "Mae hyn yn achos pryder".
Dywedodd yr adroddiad hefyd ei fod yn bosib na fyddai ffocws y cwricwlwm newydd ar 'gynefin' yn ddefnyddiol.
Fe allai olygu, mewn rhannau o Gymru lle mae nifer fychan o Bobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, nad yw eu hanes yn cael ei ystyried "yn rhan o'r amgylchedd lleol".
Er bod canran y disgyblion yng Nghymru sydd o gefndir lleiafrif ethnig yn amrywio'n fawr o ardal i ardal - o 34.4% yn ysgolion Caerdydd i 4.1% yn Ynys Môn - yn ôl yr adroddiad mae amrywiaeth ethnig i'w weld ym mhob rhan o Gymru.
Rhoddodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams groeso i'r adroddiad gan gynnwys yr "heriau" a'r "atebion posib".
Dywedodd y byddai rhwydwaith cenedlaethol o athrawon a ffigyrau eraill o'r byd addysg yn helpu i nodi diffygion o ran adnoddau, er mwyn sicrhau bod ysgolion yn cael y cymorth cywir i weithredu'r cwricwlwm newydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2020