'Angen mwy o athrawon o 'gefndiroedd gwahanol' yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Bev Lennon
Disgrifiad o’r llun,

Bev oedd yr unig berson du ar ei chwrs hyfforddi i fod yn athrawes

"Ar y cwrs fi oedd yr unig un. Do'n i ddim yn gofidio, jyst yn ymwybodol."

Pan symudodd Bev Lennon o Brixton yn Llundain i Gymru yn yr 1980au fyddai hi byth wedi dychmygu y byddai hi, o aelwyd Garibïaidd, yn hyfforddi i fod yn athrawes Gymraeg.

Wedi gyrfa hir yn dysgu mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, mae'n gweld yr angen am fwy o athrawon o gefndiroedd gwahanol.

Yn ôl ffigyrau diweddaraf Cyngor y Gweithlu Addysg mae 0.2% o athrawon Cymru yn Ddu, Affricanaidd a Charibïaidd.

Pan ddechreuodd Bev, sydd nawr yn byw yn y Barri, ar ei chwrs hyfforddiant dysgu, hi oedd yr unig berson du.

"Os fi'n hollol onest, falle naïf, oedd 'na tipyn bach o fi'n meddwl a fydd rhywun arall fel fi, a fydd dyn neu fenyw arall du."

Mae'n dweud ei bod hi wedi wynebu problemau "ambell waith" oherwydd lliw ei chroen ond yn mynnu bod dysgu "yn yrfa hyfryd".

Mae'r ystadegau'n awgrymu bod tua 64 athro yng Nghymru yn Ddu/Affricanaidd/Caribïaidd neu Ddu Brydeinig.

Mae 0.5% arall o'r gweithlu yn dweud eu bod o ethnigrwydd cymysg.

Er bod ystadegau disgyblion yn cael eu cofnodi mewn ffordd wahanol, mae'r cyfrifiad ysgolion diweddaraf yn nodi bod 4.3% o ddisgyblion dros bump oed o ethnigrwydd Du neu Gymysg.

Dywedodd Angela Jardine, Cadeirydd Cyngor y Gweithlu Addysg, eu bod yn gweithio i hyrwyddo'r proffesiwn gan gynnwys i bobl o leiafrifoedd ethnig.

"Wrth gwrs mae angen cydweithio gyda chymunedau i wneud hyn, i ddenu pobl mewn i ddangos pa mor werthfawr ydy bod yn athro neu'n athrawes yng Nghymru a'ch bod chi'n gallu hybu datblygiad cymdeithas trwy fod yn rhan o hynny - mae gwaith dal i'w wneud," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Bev yn meddwl bod hi'n bwysig cael athrawon o gefndiroedd gwahanol

Yn ôl Bev mae'n "bwysig tu hwnt" bod yna athrawon o gefndiroedd gwahanol.

"Ry' ni mo'yn mwy o bobl i fod yn role models," meddai.

Ond mae'n gweld rôl i rieni hefyd wrth gyflwyno a thrafod hanes pobl ddu gyda'u plant.

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grŵp arbenigol dan gadeiryddiaeth yr Athro Charlotte Williams o Brifysgol Bangor, i ystyried sut i hybu materion yn ymwneud â phobl du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn y cwricwlwm newydd.

Yn Ysgol Gyfun Gwent Is Coed yng Nghasnewydd mae Taiya o flwyddyn 9 yn dweud eu bod wedi rhoi sylw i themâu perthnasol yn yr ysgol.

"Rydyn ni wedi gwneud llawer o waith llafar ar Black Lives Matter a hefyd rydyn ni'n dysgu yn hanes am gaethweision du," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Anaya, Taiya ac Evie wedi bod yn dysgu am hanes pobl du yn yr ysgol

Yn ôl Anaya, mae angen mwy o athrawon o gefndiroedd gwahanol yng Nghymru.

"Bydd e'n dda i ddisgyblion sy'n dod o gefndir BAME (du, Asiaidd a lleiafrif ethnig) i gael eu cynrychioli.

"Os mae 'na ddisgyblion Mwslim sydd angen addoli yna os mae 'na athro sydd yn Fwslim, allen nhw gefnogi nhw."

Mae Evie yn cytuno, ond "y peth mwyaf pwysig am athrawon yw eu bod nhw eisiau bod yna i gefnogi'r plant", meddai.

"Does dim ots o ba gefndir maen nhw'n dod."