Gwerthu plasty wedi 600 mlynedd yn y teulu
- Cyhoeddwyd

Yn ôl y perchnogion presennol mae Plas Llanfendigaid wedi bod yn y teulu ers 40 cenhedlaeth
Wedi 600 mlynedd yn un teulu mae perchnogion ystâd yng Ngwynedd, sy'n honni bod yna gysylltiad rhyngddyn nhw ac un o frenhinoedd y gogledd, yn cael ei werthu.
Cafodd prif dŷ Llanfendigaid ger Tywyn yn ne Eryri ei adeiladu yn y 13eg ganrif, cyn cael ei adnewyddu i'w ddyluniad presennol yn 1746.
Mae'r teulu sy'n gwerthu'r ystâd yn dweud bod gan eu teulu nhw gysylltiadau a'r lle mor bell yn ôl a 1241.
Mae'r perchennog presennol, Will Garton-Jones, wedi penderfynu gwerthu'r lle oherwydd nad yw am i'w dair merch wynebu'r her a ddaw yn sgil etifeddu ystâd.
Fe etifeddodd y cyn-swyddog yn y fyddin y tŷ a'r ystâd pan oedd yn 23 oed yn yr 1980au.

Fe etifeddodd William Garton-Jones yr ystâd ger Tywyn pan oedd yn 23 oed ac yn y brifysgol
Mae'r ddogfen hynaf y mae'r teulu wedi'i gweld yn sôn am enw'r tŷ yn 1241.
Mae dogfennau eraill yn dangos bod yr ystâd gyda'r teulu o tua'r 16eg ganrif - er "mae'n debyg yn llawer cynt na hynny" meddai Mr Garton-Jones.
Roedd teulu Nanney-Wynn, un o'r boneddigion cyfoethocaf yn y rhanbarth, yn berchen ar yr ystâd dros yr ychydig ganrifoedd diwethaf, gydag ochr Nanney yn olrhain eu llinach yn ôl i Bleddyn ap Cynfyn, brenin Gwynedd a Powys a fu farw yn 1075.
Mae map o 1780 yn dangos bod yr ystâd wreiddiol yn ymestyn ar hyd arfordir Cymru o Harlech yn y gogledd i Aberystwyth yn y de.
Ers hynny mae ystâd Llanfendigaid wedi lleihau tipyn a bellach mae'r ystâd y cynnwys darn llawer llai o Barc Cenedlaethol Eryri ger arfordir Bae Ceredigion.
"Beth bynnag yw'r gwirionedd, mae'n hen safle iawn, a gallwch chi weld pam - roedden nhw'n amlwg wedi dewis y man gorau," meddai Mr Garton-Jones, sy'n byw yn Wiltshire.
"Mae'n safle hyfryd, mae ganddo feicro-hinsawdd, lle mae pobman arall yn gymylog neu'n bwrw glaw ac mae gennych chi heulwen - mae'n hynod iawn."

Y teulu Kirkby yn y plas yn 1886 - hen Dadcu Will Garton-Jones ydy'r ail o'r dde yn y rhes gefn

Mae arfbais y teulu'n hongian uwchben tân ym mharlwr y plasdy hyd heddiw
William Nanney-Wynn oedd y cyntaf i gymryd enw'r teulu tua 1750, ac mae ei bortread yn dal i hongian yn y maenordy heddiw.
Ar ddiwedd y 19eg ganrif y daeth teulu Mr Garton-Jones i fod â chysylltiad cadarn â Llanfendigaid.
Yn eu plith roedd ei hen dad-cu, Edward William Kirkby, un o 10 o blant a gafodd eu magu yn y tŷ.
"Roedd cefnder fy hen dad-cu wedi etifeddu'r ystâd ond wedi penderfynu y byddai'n well ganddo fyw yn Awstralia, ac wedi cyfarwyddo fy hen dad-cu i werthu popeth ac anfon yr arian ato.
"Fe wnaeth hynny yn briodol - gyda fy hen dad-cu yn negodi pris da iawn gydag ef ei hun i brynu ystâd Llanfendigaid."
Pan fu farw ei dad-cu, daeth yr ystâd i ddwylo Mr Garton-Jones, ac mae wedi treulio'r tri degawd diwethaf yn ei droi'n ganolfan wyliau.

Mae'r perchnogion presennol wedi troi nifer helaeth o'r adeiladau allanol, gan gynnwys yr hen feudy, yn lefydd gwyliau
Dywedodd Mr Garton-Jones bod y pandemig Covid wedi gwneud iddo feddwl mai dyma'r amser iawn i'w roi ar y farchnad.
Byddai'n golygu mai ef yw'r olaf o 40 cenhedlaeth i fod yn berchen ar y tŷ a'r ystâd.
Mae'n cyfaddef ei fod wedi bod yn benderfyniad anodd, yn llawn emosiynau.
"Yr un peth cadarn yn fy mywyd, y lle roedden ni'n dod yn ôl ato bob amser, oedd Llanfendigaid. Mae wedi bod yn angor gwych," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Medi 2020