Plasty hanesyddol yn 'dirywio'n sydyn' wedi lladrad

  • Cyhoeddwyd
Plas NannauFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryderon am yr adeilad hanesyddol ar ôl i blwm ddiflannu o'r to

Mae cyflwr plasty hanesyddol yng Ngwynedd yn "dirywio'n sydyn" ar ôl lladrad o ddeunyddiau hanfodol o'r adeilad, yn ôl awdurdod parc cenedlaethol.

Mae plwm wedi ei ddwyn o do Plas Nannau yn Llanfachreth, ger Dolgellau, sy'n peryglu seiliau'r adeilad rhestredig Gradd II.

Cafodd y plasty ei adeiladu yn y 1790au gan Syr Robert Howell Vaughan, ond y gred yw bod cartref hanesyddol yn bodoli yno ers yr 11eg ganrif, dolen allanol.

Roedd yr ystâd yn gartref i deulu Nanney am ddegawdau cyn i Syr Robert adeiladu ar y tir.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd yr adeilad yn ysbyty dros dro i filwyr, ond yn fwy diweddar mae sawl cynllun wedi bod i'w drawsnewid yn westy.

Dechreuodd y perchennog diweddaraf ar waith adnewyddu ar ôl prynu'r adeilad yn 2001, ond nid yw wedi ei orffen.

Mae adroddiad i bwyllgor cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, dolen allanol'n dweud: "Mae wedi dod i sylw'r awdurdod bod plwm o do'r adeilad wedi ei dynnu a bod ei gyflwr cyffredinol yn dirywio'n sydyn."

Mae cyflwr yr adeilad yn cael ei ddisgrifio fel "gwael" yn dilyn ymweliad â'r safle.

Yn ôl yr adroddiad i'r pwyllgor, fe fydd swyddogion yn ceisio cysylltu gyda'r perchennog er mwyn trafod pa gamau mae modd eu cymryd i ddiogelu'r tŷ hanesyddol.