Pregethwr Islamaidd yn gwadu treisio merch mewn mosg
- Cyhoeddwyd
Clywodd llys fod pregethwr Islamaidd sydd wedi'i gyhuddo o dreisio merch dan 16 oed wedi cael ei arestio 15 mlynedd wedi'r drosedd honedig wedi i'r ferch ei nabod mewn fideo YouTube.
Roedd y ferch, sydd bellach yn oedolyn, ond yn nabod yr ymosodwr honedig fel 'Yr Imam' cyn dod ar draws delwedd o Khandaker Rahman ar-lein.
Dywed ei bod wedi nabod proffil y pregethwr 64 oed o'r ochr, tynnu llun o'r fideo a mynd at yr heddlu.
Mae'r diffynnydd, o Gwmdu, yn Abertawe, yn gwadu treisio a dau gyhuddiad o ymosodiadau rhyw.
'Uchel ei barch'
Dywed y dioddefwr honedig ei bod wedi teimlo euogrwydd ar ôl cael ei threisio mewn mosg yn ne Cymru, ac roedd eisiau dod â'r digwyddiad i ben a symud yn ei blaen gyda'i bywyd.
Yn ôl John Hipkin QC ar ran yr erlyniad, roedd y pregethwr yn "uchel ei barch" ond fe dreisiodd y ferch yn ystod gwersi crefyddol.
"Cytunodd i adael iddi fynd adre'n gynnar os fyddai'n ei helpu i symud rhywfaint o lyfrau o'r llyfrgell i fyny grisiau," meddai wrth y rheithgor yn Llys Y Goron Abertawe.
"Ar eu ffordd yna, fe wthiodd hi i ystafell ymolchi ac fe syrthiodd i'r llawr gan daro ei phen.
"Y peth nesaf mae hi'n ei gofio yw Rahman ar ei phen."
Clywodd y llys fod y ferch wedi rhedeg o'r mosg i gar ei thad, oedd wedi'i barcio tu allan.
Stopiodd fynd i'r mosg wedi i'r diffynnydd ymosod arni'n rhywiol ar ddau achlysur gwahanol.
Mae'r achos yn parhau.