Llifogydd: 'Trawma' i gymunedau Rhondda Cynon Taf

  • Cyhoeddwyd
Pentre ar fore Iau
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai cartrefi wedi diodde' llifogydd deirgwaith eleni

Mae'r profiad o ddioddef llifogydd difrifol ac yna'r pandemig coronafeirws wedi peri trawma sylweddol i rai cymunedau yn Rhondda Cynon Taf, yn ôl adroddiad gan wleidyddion lleol.

Maen nhw'n galw am asesiad o'r effaith ar iechyd meddwl a'r cymorth sydd ar gael.

Ymysg yr argymhellion eraill mae cynnal ymarferion llifogydd a sefydlu rhwydwaith o "lysgenhadon cymunedol".

Dywedodd y bwrdd iechyd lleol - Cwm Taf Morgannwg - eu bod yn paratoi am gynnydd yn y galw am wasanaethau iechyd meddwl.

Fe ychwanegodd Llywodraeth Cymru ei bod yn buddsoddi £1.9m mewn prosiectau gwrthsefyll llifogydd yn yr ardal.

Yn ôl yr aelod Llafur dros Bontypridd yn Senedd Cymru, Mick Antoniw, a'r Aelod Seneddol lleol Alex Davies-Jones, roedd eu hadroddiad wedi'i selio ar nifer o gyfarfodydd gydag asiantaethau oedd yn arwain yr ymateb i'r llifogydd, yn ogystal â gweinidogion y llywodraeth a thrigolion lleol.

"Cafodd [yr ardal] ei tharo yn galed iawn gan y llifogydd," eglurodd Mr Antoniw.

"Rydym yn gwybod bod llawer o deuluoedd wedi dioddef cryn straen meddwl ac rydym wedi gofyn i'r bwrdd iechyd lleol ymchwilio i hyn ac asesu'r gefnogaeth sydd ar gael."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Jess a Rhodri Garland ymhlith y rhai a ddioddefodd yn y llifogydd

Mae 'na bryder yn enwedig am yr effaith ar blant a'r henoed, meddai.

Mae'r adroddiad hefyd yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn sefydlu cronfa i helpu perchnogion tai fyddai fel arall yn ei chael hi'n anodd fforddio gosod amddiffynfeydd fel llifddorau neu gatiau yn eu cartrefi.

Dylid sefydlu rhwydwaith o lysgenhadon llifogydd i "chwarae rôl allweddol wrth sicrhau bod cymunedau wedi'u paratoi" - gan gynnwys gallu cael gafael ar gyflenwadau digonol o fagiau tywod.

Ac fe ddylai Cyfoeth Naturiol Cymru drefnu ymarferion ymateb i lifogydd o dro i dro, ar y cyd â'r gwasanaethau brys a chymunedau lleol.

Arweiniodd stormydd Ciara, Dennis a Jorge ar ddechrau 2020 at lawiad a lefelau afonydd a ddisgrifiwyd fel rhai digynsail, gan achosi'r llifogydd gwaethaf yng Nghymru ers 1979.

Yn Rhondda Cynon Taf, cafodd bron i 1500 o gartrefi a busnesau eu heffeithio.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd difrod sylweddol ei wneud i gartref Mr a Ms Garland

Draw ar Stryd yr Aifft, Trefforest mae Rhodri a Jess Garland yn dweud eu bod bellach yn teimlo'n bryderus bob tro ei bod hi'n bwrw glaw.

Mae'r cwpwl bellach mewn dyled ar ôl gorfod adnewyddu eu cartref, gan nad oedd eu hyswiriant yn cynnwys amddiffyn rhag llifogydd.

"Bu'n rhaid i ni gael gwared ar bopeth yn y gegin, y stafell fyw - hyd yn oed y drws ffrynt," eglurodd Mrs Garland.

"Mae 'na bethau na chawn ni fyth yn ôl - mae'n tystysgrif priodas ni yn llawn mwd a lluniau teuluol wedi'u difrodi."

Dywedodd Mr Garland ei fod yn teimlo bod Llywodraeth Cymru wedi "anghofio" amdanyn nhw, gyda grant o £1,000 o bunnau a gynigwyd wedi'r llifogydd "ddim yn agos at fod yn ddigon".

"Mae wedi achosi straen go iawn i ni a phe na bai hi am y gymuned leol, y clwb rygbi dwi'n aelod ohono, ein gwaith ni - os na fydde nhw wedi helpu drwy godi arian ar ein cyfer ni, fe fydde ni mewn sefyllfa llawer iawn gwaeth yn ariannol."

"Mae 'da ni lot o bryder nawr - sut ydw i fod i weithio pan dwi'n cael nodiadau ar fy ffôn yn gyson yn rhybuddio am lifogydd bob tro mae'n glawio."

Gyda mab bach tair blwydd oed a babi arall ar y ffordd ym mis Mawrth mae'r pâr yn dweud eu bod "just eisiau gwybod ein bod ni'n saff - sut allwn ni fod yn siŵr na fydd hyn yn digwydd eto ym mis Chwefror?"

Yn ôl Sara Moseley, cyfarwyddwr elusen Mind Cymru mae teimladau o "siom, dicter ac ofn" yn hollol naturiol wedi digwyddiad dychrynllyd fel llifogydd.

"Ble mae'n mynd yn really anodd yw pan mae un trawma ar ben y llall - yn cael eu haenu. A phan fod hynna'n digwydd falle mewn cymunedau lle'r oedd pobl yn cael trafferthon o ran cynnal a chadw eu hunain yn ariannol yn y lle cynta'.

"Felly mae'n bwysig ein bod ni'n cydnabod pan fod 'na un peth ar ben y llall yn digwydd - fel yn fan hyn - mae'n bwysig iawn meddwl am yr effeithiau ymarferol ar bobl yn ogystal â'r effeithiau emosiynol. Mae'r ddau beth ynghlwm."

'Rhaglen gynllunio gadarn'

Wrth ymateb i'r adroddiad dywedodd Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Dr Kelechi Nnoaham: "Rydym yn ymwybodol o'r potensial am effaith andwyol sylweddol ar iechyd a lles cyhoeddus y llifogydd a ddigwyddodd ar draws ein cymunedau yn gynharach eleni.

"Gallai hyn gael ei ddwysáu gan heriau Covid, a'r colledion sy'n cael eu profi yn yr un cymunedau.

"Mae gennym raglen cynllunio gaeaf gadarn ar waith ar gyfer ein gwasanaethau, sy'n ystyried y galw cynyddol am gymorth iechyd meddwl. Yn ogystal â gwasanaethau byrddau iechyd mae cyfoeth o gymorth aml-asiantaethol ar gael i bobl a allai deimlo eu bod yn cael trafferth ar hyn o bryd.

"Dylai unrhyw un sy'n pryderu am eu hiechyd meddwl gysylltu â'u meddyg teulu, a fydd yn gallu eu cyfeirio at y cymorth ychwanegol sydd ar gael yn eu cymunedau.

"Mae ein bwrdd iechyd, awdurdodau lleol, asiantaethau cymorth cymunedol a sefydliadau'r trydydd sector i gyd yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu cymorth lle mae ei angen fwyaf."

Llywodraeth 'wedi buddsoddi'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn diolch i bawb gyfrannodd at yr adroddiad ac a helpodd i gefnogi cymunedau yn yr ardal yn dilyn y llifogydd.

"Eleni gwelwyd 25 o brosiectau lliniaru llifogydd ar draws ardal awdurdod lleol RhCT, am gyfanswm o £1.9m - mae hyn yn cynnwys mwy na £300,000 a gymeradwywyd yn ddiweddar gan y Gweinidog Amgylchedd i ddarparu mesurau gwrthsefyll llifogydd mewn mwy na 350 o gartrefi.

"Gwnaethom hefyd ddarparu £1.6m o gyllid i RhCT i wneud gwaith atgyweirio ar fesurau draenio, cwlfertau a mesurau lliniaru eraill yn dilyn y difrod a achosodd stormydd eleni.

"Mae ein Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd ac Arfordiroedd genedlaethol ddiweddar hefyd yn amlinellu ein bod yn credu bod mesurau cydnerthedd llifogydd eiddo (PFR) yn cael eu defnyddio'n well ar raddfa gymunedol, yn hytrach na darparu cynlluniau'n uniongyrchol i berchnogion tai, ac efallai na fydd llawer ohonynt yn dewis gwneud cais - mae hyn hefyd yn sicrhau bod yr eiddo cywir yn cael mesurau.

"Fodd bynnag, rydym yn annog pob Awdurdod Rheoli Risg i ystyried mesurau PFR lle maent yn opsiwn priodol."

Galw am ymchwiliad

Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd Aelod Senedd y Rhondda, Leanne Wood: "Yr hyn sy'n amlwg ar goll o'r adroddiad yw'r methiant i gefnogi ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i'r llifogydd.

"Golwg diduedd ar yr hyn ddigwyddodd, a pha atebion sydd ar gael yw'n cyfle gorau efallai o atal mwy o ddiflastod yn y dyfodol i'r cymunedau gafodd eu taro gan lifogydd.

"Pam fyddai Llafur Cymru am wrthwynebu'r fath ymchwiliad? Ydyn nhw'n bryderus y byddai ymchwiliad yn dangos methiannau Cyngor (Llafur) Rhondda Cynon Taf neu Gyfoeth Naturiol Cymru, sy'n cael ei redeg gan Lywodraeth Lafur Cymru?

Yn gynharach eleni - mewn pleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin - fe wnaeth ASau Llafur yr ardaloedd gefnogi ymchwiliad cyhoeddus i lifogydd yn Lloegr. Pam nad yw Cymru'n haeddu un?"