Rheolwr cartref methu ymdopi â straen Covid cyn ei farwolaeth
- Cyhoeddwyd
Fe laddodd rheolwr cartref gofal ei hun oherwydd y "straen emosiynol anghredadwy" o ddelio gyda'r coronafeirws, clywodd cwest.
Cafwyd hyd i Vernon Hough, 61, ym maes parcio gorsaf heddlu Llai, ger Wrecsam ar 21 Mai.
Roedd Mr Hough yn rheoli cartref gofal Gwastad Hall ger Wrecsam, gan ofalu am 40 o breswylwyr gyda'i wraig, Helen.
Mewn datganiad i'r cwest, dywedodd Mrs Hough bod ei gŵr wedi colli stôn a hanner o bwysau "oherwydd y pryder am Covid".
Clywodd y cwest yn Rhuthun bod Mr Hough yn tueddu i boeni am bethau, a bod delio gyda'r pandemig "yn cael effaith" arno.
Dywedodd Mrs Hough y byddai'r ddau yn siarad am y pandemig "drwy'r amser", ac nad oedd ei gŵr yn "ymdopi gyda gweld pobl dan straen".
Clywodd y gwrandawiad hefyd bod y ddau wedi cael trafferth prynu digon o nwyddau diogelwch personol ac ocsigen.
Wrth gofnodi casgliad o hunanladdiad, dywedodd y Crwner David Pojur bod pwysau'r pandemig wedi llorio Mr Hough.
"Mae rheoli cartref gofal yn anodd dan yr amgylchiadau gorau, ond yn ystod pandemig fe wnaeth hynny ei roi dan fwy o bwysau nag oedd yn gallu ysgwyddo."
Awgrymodd y crwner bod Mr Hough yn poeni am ddal y feirws ei hun, yn ogystal â'r lledaeniad.
Ond dywedodd ei wraig: "Doedd o ddim ofn ei ddal, roedd o ofn ei ledaenu achos doedden ni ddim yn cael ein profi.
"Dyna oedd ei bryder."