OnlyFans: Pryder am 'ôl-troed digidol' postio ar-lein

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Woman looking away from camera
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r nifer sy'n defnyddio gwefannau ble gallwch bostio cynnwys rhywiol wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf

Mae cynnydd yn nifer y bobl sy'n postio lluniau o'u hunain ar-lein wedi arwain at rybuddion y dylid ystyried eu "hôl-troed digidol".

Mae pobl sy'n defnyddio gwefannau tanysgrifio wedi cynyddu, gydag un wefan yn honni cynnydd o ddeg gwaith yn nifer y defnyddwyr mewn 13 mis.

Mae gwefan OnlyFans yn gadael i ddefnyddwyr hyrwyddo diddordebau fel ffitrwydd a choginio am daliad.

Ond gall cynnwys o natur mwy rhywiol hefyd cael ei bostio yno ac mae gwefannau fel hyn wedi cael eu hannog i rybuddio defnyddwyr o'r "risgiau diogelwch".

Mae nifer y bobl sy'n creu cynnwys ac sy'n tanysgrifio i'r math yma o wefannau wedi tyfu yn ystod y cyfnod clo wrth i'r pandemig gael effaith ar lefel diweithdra a phobl yn chwilio am incwm ychwanegol.

Fe gafodd Cariad - nid ei henw go iawn - ei rhoi ar ffyrlo o'i ddwy swydd yn ystod y cyfnod clo cyntaf, a'i phrif incwm wedi hynny oedd postio lluniau noeth o'i hun ar-lein.

Ond mae yna bryderon nad yw pobl sy'n postio lluniau echblyg ar-lein yn ymwybodol o'r holl ganlyniadau ynghlwm â beth maen nhw'n postio, a'r effaith ar eu "hôl-troed digidol" wrth feddwl am swyddi yn y dyfodol.

"Dyw lot o bobl ddim yn meddwl am eu hôl-troed digidol pan maen nhw'n dechrau rhannu cynnwys ar wefannau," meddai'r Athro Teela Sanders, arbenigwr yn economi rhyw ar-lein y DU.

"A dydyn nhw ddim wir yn meddwl trwy'r ffaith bod e'n anodd i'w dileu.

"Fi'n credu bod gan wefannau lle mae unrhyw gynnwys rhywiol yn cael ei greu, gyfrifoldeb i'w cynhyrchwyr a'u cwsmeriaid i wneud pobl yn ymwybodol o'r rheolau diogelwch - ac i ymateb pan mae gan gynhyrchwyr bryderon neu gwestiynau am ddiogelwch nhw neu eraill."

Dechreuodd Cariad bostio mwy o luniau ar-lein pan gafodd ei rhoi ar ffyrlo.

"Roedd gen i gymaint o amser sbâr, felly rhoddais i fy holl amser mewn iddo fe. Roedd screen time fi ar ffôn fi tua 16-17 awr y dydd," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryderon gall bobl cipio cynnwys o'r wefan

Er i'w hincwm gynyddu yn ystod y pandemig, mae Cariad yn poeni gall ei chynnwys gael ei ddwyn o'r wefan.

Mae hi hefyd yn poeni gall ei chyflogwyr eraill ddarganfod y cynnwys gan fod un o'i swyddi yn y byd addysg.

"Os fyddai rhywun yn ffeindio allan, bysen ni'n deall pam bydden nhw ddim eisiau rhywun yn gweithio yn y byd addysg," dywedodd.

"Os rydych chi'n mynd i fod yn athrawes wel mae hwnna'n complete no. Ond os chi'n cadw nhw ar wahân, mae'n eithaf annheg bod chi'n methu cael swydd yn y sector yna."

Mae gwefannau tanysgrifio fel OnlyFans a Patreon wedi gweld twf yn y nifer o bobl sy'n defnyddio nhw.

Mae gwefan OnlyFans ymysg y fwyaf poblogaidd ac yn hawlio bod nifer ei ddefnyddwyr wedi cynyddu o 7.5 miliwn yn Nhachwedd 2019 i 85 miliwn erbyn hyn, gyda 750,000 o bobl yn creu cynnwys ar y platfform.

Dydy'r cynnwys ddim yn gynnwys rhywiol o reidrwydd, ond mae nifer yn defnyddio'r wefan felly.

Un o'r rhain yw Rachel - sydd yn ei 30au ac o'r de. Gadawodd ei swydd llawn amser fel dadansoddwr data yn ystod y pandemig er mwyn cydbwyso'i bywyd yn well.

Penderfynodd bostio lluniau ar OnlyFans er mwyn talu ei dyledion ac mae hi wedi ennill dros £2,800 mewn pedair wythnos ers lansio'i thudalen.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cariad yn dioddef o boen cronig ac yn dweud bod gweithio o adref yn help, a nad ydy hi'n gallu gwneud hyn gyda'i swyddi eraill

"Fi 'di bod mewn sefyllfa ariannol ansicr yn y gorffennol ac o'dd hwn yn ffordd o ddechrau eto.

"O'n i eisiau dechrau un achos o'n i 'di gadael fy swydd, 'di mynd yn freelance a chyrhaeddais i bwynt ble o'n i wir eisiau cael gwared o fy nyledion," meddai Rachel.

Dywedodd Rachel fod hi wedi "reslo hefo'i emosiynau" yn ymwneud a'r "vulnerability o bostio'n gyhoeddus".

"Fi'n credu'r prif risg oedd mynd yn gyhoeddus, chi'n agor e lan i bobl gallech chi nabod mewn bywyd go iawn a dyw pawb ddim yn mynd i gytuno gyda beth chi'n 'neud.

"Mae'n rhaid i chi fod yn ddigon cryf i wybod bod chi'n fwy tebygol o ddod ar draws criticism, dyw e ddim mor hawdd i brusho off pawb, na'n hawdd i defendio. Dylech chi ddim gorfod, ond chi'n debygol o ffeindio'ch hun yn gorfod gwneud."

Ychwanegodd bod e'n gallu teimlo'n "ansicr" dibynnu ar incwm o'r wefan yn unig.

"Mae dal yn risg i roi'ch wyau i gyd mewn un fasged, ni gyd yn dibynnu ar wefan all newid ar unrhyw amser, a chi byth yn gwybod, o fewn wythnos gall eich incwm fod wedi mynd," meddai.

"Er bydd gwaith rhyw ar-lein byth yn mynd i ffwrdd, mae'r risg yna wastad yna, felly i fi mae am y sefydlogrwydd."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr Athro Teela Sanders nad yw lot o bobl yn ystyried ei "ôl-troed digidol" pan yn postio lluniau ar-lein

Ond rhybuddiodd yr Athro Sanders bod yna "gamsyniad" am y "fath o arian chi'n gallu ennill a'r sefydlogrwydd o gwmpas gwaith rhyw ar-lein".

"Tra bod bodlonrwydd y swydd yn gyffredinol yn uchel, mae ansefydlogrwydd y swydd yn bwysig iawn," meddai.

Rhywbeth arall oedd yn poeni Cariad oedd ei chynnwys yn cael ei ddwyn.

Wrth ymateb i bryderon am luniau a chynnwys yn cael eu dwyn, dywedodd llefarydd ar ran OnlyFans ei bod "yn erbyn termau ein gwasanaeth i gopïo, dyblygu neu recordio cynnwys defnyddwyr, ac mae cyfraith DMCA [Deddf Ddigidol Hawlfraint y Mileniwm] yn amddiffyn cynnwys pobl rhag cael ei gyhoeddi heb y caniatâd cywir.

"Rydyn ni'n gweld diogelu cynnwys fel un o'n prif flaenoriaethau ac rydyn ni wastad yn ceisio gwella hyn."

O ganlyniad, rydyn ni'n parhau i fuddsoddi adnoddau mewn i hyn ac mae gyda ni dîm DMCA sy'n parhau i dyfu'n gyflym, sy'n adrodd ac yn dileu cynnwys sydd yn erbyn unrhyw reolau hawlfraint."

Gofodau'n 'esblygu'n gyson'

Yn ôl yr Athro Sanders does dim llawer o ddata ar gael yn ymwneud â gwefannau tanysgrifio a'u heffaith ar y diwydiant rhyw.

Ond dywedodd bod y gofodau ar-lein ar gyfer cynnwys rhywiol yn "esblygu'n gyson".

"Yn fwy diweddar mae OnlyFans wedi dod i'r amlwg, ac mae Covid wedi cael rhywbeth i wneud â hwnna, ond mae'n parhau i esblygu," meddai.

Dywedodd bod yna elfen o "ie, gallwch wneud llwyth o arian" ond bod "y nifer o oriau mae'n rhaid i chi roi mewn" yn gallu arwain at "ymyrraeth i mewn i'ch bywyd".

Pynciau cysylltiedig