Prif Weinidog y DU i ymweld â gogledd Cymru
- Cyhoeddwyd

Bydd y Prif Weinidog yn cyhoeddi cronfa newydd gwerth £20m
Bydd Prif Weinidog y DU Boris Johnson yn ymweld â gogledd Cymru dydd Llun.
Pwrpas yr ymweliad yw cyhoeddi cronfa newydd gwerth £20m i ddatblygu a thyfu'r diwydiant gweithgynhyrchu meddyginiaethau ym Mhrydain.
Bwriad Llywodraeth Prydain yw creu cyfleoedd economaidd yn Lloegr, yr Alban a Chymru.
Maen nhw hefyd yn gobeithio y bydd yn ffordd o greu swyddi medrus yn ogystal â chadw swyddi sy'n barod yn bodoli o fewn y diwydiant.
Yn sgil y pandemig, mae'r llywodraeth yn gobeithio bydd yr arian yn galluogi Prydain i ymateb yn gryf os oes argyfwng tebyg yn digwydd yn y dyfodol.
Dywedodd Mr Johnson: "Bydd y gronfa newydd £20m yn cynyddu'n sylweddol gallu a gwytnwch ein cadwyni cyflenwad gweithgynhyrchiol diagnostig a meddygol a'n galluogi ni i frwydro yn erbyn argyfyngau iechyd yn y dyfodol.
"Trwy gydol y pandemig rydyn ni wedi gweld y diwydiant Prydeinig arloesol a gwyddonol yn dod at ei gilydd a bydd y gronfa newydd yma'n gwella gallu gweithgynhyrchu'r DU hyd yn oed yn fwy."
Yn ôl Ysgrifennydd Busnes y DU, Alok Sharma: "Mae ymateb positif ac amserol ein gweithgynhyrchwyr meddygol i'r pandemig wedi bod yn nodedig, ond hoffwn sicrhau bod cadwyni cyflenwi'r DU hyd yn oed yn well yn y dyfodol.
"Mae cyfleoedd mawr ar gyfer datblygiadau newydd meddygol a diagnostig, a bydd y gronfa newydd yn rhoi'r DU ar y blaen, ac yn gwella gallu'r DU i greu cyfleoedd economeg arwyddocaol ar draws y wlad."
Bydd y gronfa ar gael o'r flwyddyn nesaf fel rhan o Adolygiad Gwariant 2021/2022 y llywodraeth a gafodd ei gyhoeddi gan y Canghellor ar 25 Tachwedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2020