Adolygiad gwariant: 'Arbed, nid gwario yw'r nod tebygol'
- Cyhoeddwyd
Ddydd Mercher fe fydd Canghellor y Deyrnas Unedig, Rishi Sunak yn cyhoeddi faint o arian fydd ar gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus am y flwyddyn nesaf.
Bydd yr adolygiad gwariant hefyd yn dynodi faint o arian fydd ar gael i lywodraethau Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Ond oherwydd effaith y pandemig, a'r ansicrwydd ynglŷn â Brexit mae'r cefndir economaidd yn un anodd.
Mae'n bur debyg mai arbed, nid gwario fydd prif nod y canghellor.
Y disgwyl yw mai un o'r arbedion mwyaf fydd i rewi cyflogau gweithwyr yn y sector gyhoeddus. Mae'n annhebyg o gynnwys gweithwyr rheng flaen y gwasanaeth iechyd, ond fe fydd yn dal i effeithio ar filoedd o bobl yng Nghymru.
'Angen tyfu'r economi'
"Nid nawr yw'r amser i dorri" yn ôl Aelod Seneddol Llafur Llanelli, Nia Griffith.
"Mae sefyllfa ddifrifol iawn gennym ni ar hyn o bryd," meddai, "ond beth sydd eisiau gyda'r Canghellor nawr ydy creu twf yn yr economi.
"Wrth gwrs bydd amser wedyn yn y dyfodol i dalu yn ôl. Mae'n bwysig ei fod yn cydnabod, nid nawr yw'r amser i dorri lawr. Nawr yw'r amser i roi mwy o arian i'r economi."
Mae Ben Lake, AS Plaid Cymru dros Geredigion yn gobeithio na fydd y fwyell yn taro'r Gronfa Ffyniant Gyffredin - y gronfa sydd i fod i ddisodli cymorth ariannol Ewropeaidd.
"Mi gafodd Cymru nifer o addewidion na fydden ni'n derbyn unrhyw beth yn llai na beth oeddem ni dan y gyfundrefn Ewropeaidd," meddai.
"Felly fydden i'n awyddus iawn i weld bod y llywodraeth yn cadw at eu gair yn hynny o beth, a bod unrhyw arian sy'n dod fel rhan o'r gronfa yna, wir yn ychwanegol."
Gobaith AS Preseli Penfro, Stephen Crabb yw y bydd yna arian i gadw'r cynnydd o £20 yr wythnos a roddwyd i bobl sy'n derbyn taliadau Credyd Cynhwysol ar ddechrau'r pandemig.
"Mae'r syniad y byddem ni nawr yn cael gwared â'r cynnydd yma o £20 i'r Credyd Cynhwysol fis Mawrth nesaf, mewn cyfnod pan fo llawer o deuluoedd yn dal i wynebu cynnydd mewn diweithdra, mae hynny i mi allan o'r cwestiwn."
Mae'r canghellor yn mynnu "na fydd yna gynni ariannol".
"Beth welwch chi fydd cynnydd yng ngwariant y llywodraeth, ar wasanaethau cyhoeddus ddydd i ddydd," meddai Mr Sunak.
Mae'n bur debyg y bydd llawer o'r gwariant yma ar wasanaethau yn Lloegr.
Er os oes yna unrhyw wariant newydd ar y gwasanaeth iechyd ac addysg yn Lloegr, yna fe fydd yn arwain at fwy o arian i Lywodraeth Cymru hefyd, i wario ar eu blaenoriaethau nhw.
Ond mae Mr Sunak wedi rhybuddio y bydd yr adolygiad gwariant yn rhoi darlun clir o'r "sioc economaidd" sydd wedi digwydd o ganlyniad i'r pandemig.
Mae rhagolygon economaidd diweddaraf y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn debygol o fod yn frawychus.
Erbyn diwedd y flwyddyn hon mae disgwyl i'r economi fod 10% yn llai na chyn y pandemig, a'r disgwyl yw y bydden nhw wedi benthyg mwy na £370bn cyn diwedd y flwyddyn.
Mae hynny yn rhoi dewis anodd i'r canghellor yn y blynyddoedd nesaf - sut yn union mae talu am hyn oll?
Fydd o'n torri gwariant ymhellach, codi trethi, neu dal ati i fenthyg mwy? Ond penderfyniad ar gyfer y gyllideb nesaf fydd hynny.