Grant hunan-ynysu: Rhieni sengl 'yn mynd heb'
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr yn rhybuddio y bydd rhieni sengl "yn mynd heb" oni bai eu bod yn gallu cael gafael ar grantiau hunan-ynysu gwerth £500 ar gyfer gweithwyr incwm isel.
Ar hyn o bryd, dim ond pobl y gofynnir iddynt hunan-ynysu gan y system profi ac olrhain neu rheiny sy'n derbyn prawf positif ar gyfer Covid-19 sy'n gymwys i dderbyn yr arian.
Nid yw ar gael i rieni neu ofalwyr sydd angen cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith i ofalu am blentyn sydd wedi'i anfon adref o'r ysgol oherwydd coronafeirws.
Dywedodd llefarydd ar ran Lywodraeth Cymru y byddant yn parhau i adolygu'r cynllun.
Mae pobl sy'n derbyn budd-daliadau ac yn gorfod hunan-ynysu wedi gallu gwneud cais am y taliadau £500 ers pythefnos.
Dywedodd Plaid Cymru ni ellir eithrio rhieni sy'n gofalu am eu plant rhag y taliadau yma heb fod yna "ddewis arall."
Dywedodd llefarydd cydraddoldeb y blaid, Leanne Wood AS: "Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod cymorth ariannol ar gael i'r teuluoedd hyn, naill ai trwy ganiatáu i rieni/gofalwyr gyflwyno cyfeirnod olrhain ynysu'r plentyn fel tystiolaeth ar gyfer yr angen i ynysu, neu drwy sicrhau bod y Gronfa Cymorth Ddewisol ar gael i'r rheiny ar incwm isel sy'n wynebu colli tal oherwydd cyfrifoldebau gofalu am blentyn sy'n ynysu."
Dywedodd y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant fod llawer o bobl yn ardaloedd difreintiedig Cymru "yn gwneud swyddi nad ydyn nhw'n gallu gwneud adref."
Dywedodd Ellie Harwood, rheolwr datblygu grŵp Cymru: "I rieni sengl, yn enwedig, mae'r syniad o bythefnos heb unrhyw arian yn dod i mewn yn anodd iawn.
"Rydyn ni'n gwybod bod cymaint o deuluoedd yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd er eu bod nhw mewn gwaith.
"Yn ymarferol, yr hyn y mae'n ei olygu yw mynd heb lawer o'r math o bethau y mae llawer ohonom yn eu cymryd yn ganiataol.
"Weithiau mae'n hawdd anwybyddu amgylchiadau penodol rhai mathau o deuluoedd pan fydd y cynlluniau hyn wedi'u cynllunio.
"Yng Ngogledd Iwerddon, mae eu cynllun yn caniatáu i rywun wneud cais am eu grant ynysu os yw unrhyw un yn eu cartref wedi cael cyfarwyddyd i ynysu ac mae hynny, wrth gwrs, wedyn yn cynnwys rhieni a gofalwyr ond nid yw cynllun Cymru yn caniatáu hynny."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r cynllun wedi'i gynllunio i gael gwared ar y rhwystrau ariannol y mae rhai pobl yn eu hwynebu pan ofynnir iddynt hunan-ynysu neu pan fyddant wedi profi'n bositif am coronafeirws.
"Mae'n debyg i'r cynlluniau sydd ar waith mewn rhannau eraill o'r DU. Rydyn ni'n cadw'r cynllun dan adolygiad."
'Anodd iawn gwybod beth i'w wneud'
Mae Dawn Cartwright o Benrhyndeudraeth wedi bod gartref ers pythefnos yn gofalu am bump o'i phlant sydd wedi bod yn ynysu ar ôl achos positif yn yr ysgol gynradd leol.
Mae'n golygu nad yw hi wedi gallu gweithio fel cynorthwyydd dysgu "am bythefnos heb unrhyw gyflog o gwbl".
"Rwy'n cael mynd i'r gwaith ond dwi'n gweithio mewn ysgol gynradd," meddai, "Felly ydw i'n mynd i'r gwaith ac wedyn mewn perygl o ledaenu'r feirws - neu'n aros gartref a gofalu am y plant? Mae'n anodd iawn gwybod beth i'w wneud.
"Mae'n anodd iawn. Mae'r Nadolig yn dod i fyny ond mae angen talu'r biliau yn gyntaf. Rwy'n nabod llawer o deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd gwybod beth i'w wneud."
Mae Dawn wedi bod yn dibynnu ar gredydau treth gweithio, "felly, mae gen i ychydig o arian yn dod i mewn", meddai.
"Pan fyddaf yn cael fy nghyflog y mis nesaf, bydd rhaid mynd ati i weithio allan beth sy'n mynd i gael ei dalu a beth sydd ddim.
"Hoffwn iddyn nhw feddwl eu bod nhw'n gofyn i ni amddiffyn pobl trwy aros adref...ond does dim help i'w gael."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2020