Buddugoliaeth chwerwfelys i Gymru yn erbyn Belarws

  • Cyhoeddwyd
Wales womenFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Doedd perfformiad campus Cymru na goliau Natasha Harding, Rachel Rowe a Jess Fishlock ddim yn ddigon i sicrhau lle i Gymru yng ngemau ail-gyfle pencampwriaeth Euro 2022.

Fe gurodd tîm Jayne Ludlow Belarws 3-0 yng ngêm olaf y rownd ragbrofol ond roedd angen canlyniad gwell na Gogledd Iwerddon nos Fawrth i symud ymlaen yn y gystadleuaeth.

Ond fe gafodd Gogledd Iwerddon fuddugoliaeth hawdd yn erbyn tîm gwanaf Grŵp C, Ynysoedd y Ffaro - 5-1 - gan olygu eu bod nhw'n darfod yn yr ail safle a Chymru'n drydydd.

Er bod y ddau dîm â'r un nifer o bwyntiau, Gogledd Iwerddon oedd â'r record orau yn y gemau rhyngddyn nhw, a mantais drwy'r goliau a gafodd eu sgorio oddi cartref.

2-2 oedd canlyniad yng Nghymru a 0-0 ym Melffast.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Natasha Harding yn sgorio gôl gyntaf Cymru nos Fawrth

Harding gafodd cyfle gwirioneddol cyntaf Cymru, yn fuan yn y gêm, ond fe darodd ei pheniad ochr tu allan y postyn.

Ond fe roddodd dîm Jayne Ludlow ar y blaen wedi i bas Jess Fishlock o'r dde ei chyrraedd yn agos at ganol y gôl.

Erbyn hynny, roedd Gogledd Iwerddon eisoes 2-1 ar y blaen yn eu gêm hwythau.

Tarodd beniad nerthol gan Ffion Morgan oddi ar y postyn, ond yna fe wyrodd ergyd Rachel Rowe i gornel top y rhwyd i ddyblu mantais Cymru.

Daeth trydedd gôl Cymru wedi trosedd yn erbyn Harding yn y cwrt cosbi. Roedd ergyd droed dde Fishlock o'r smotyn i waelod cornel chwith y rhwyd yn bendant ac effeithiol.

Dyna oedd 30ain gôl ryngwladol Fishlock mewn 120 o ymddangosiadau.

'Rydym yn dod yn agosach'

Disgrifiad o’r llun,

Rhaid dysgu gwersi a symud ymlaen, meddai Jayne Ludlow wedi'r gêm

Ar ddiwedd y gêm yn Rodney Parade, dywedodd Jayne Ludlow bod y tîm "wedi glynu i'r cynllun, gweithio'n wirioneddol galed a mwynhau eu hunain".

Ychwanegodd: "Mae wedi bod yn ymgyrch galed, ddiddorol i ni, ond mae'n ymgyrch sy'n mynd i'n gwneud ni'n gryfach.

"Mae yna adegau pan rydym wedi bod yn ardderchog a chael yr hyn 'dan ni'n ei haeddu - ac mae yna adegau pan nad ydyn ni wedi gwneud y pethau hynny ac fe wnawn ni ddysgu o'r rheiny a symud ymlaen.

"Fe rydyn ni wedi dangos heno, mae gyda ni griw gwych o ferched o sawl oedran ac rydym yn edrych tua'r dyfodol.

"Gyda phob ymgyrch rydym yn dod yn agosach... rydym yn dod yn agosach at y cam olaf yna, a gobeithio bydd y chwaraewyr ifanc sy'n dod trwodd yn ein helpu i wneud hynny."