Ergyd i obeithion Cymru wedi colled yn erbyn Norwy
- Cyhoeddwyd
Roedd ergyd i obeithion Merched Cymru o gyrraedd pencampwriaeth Euro 2022 wrth golli o 1-0 yn erbyn Norwy yng Nghaerdydd.
Roedd hi'n berfformiad amddiffynnol cryf gan Gymru yn yr hanner cyntaf i sicrhau ei bod hi'n ddi-sgôr ar yr egwyl.
Roedd Norwy wedi sgorio 33 o goliau mewn pum gêm cyn wynebu Cymru, ond llwyddodd y gôl-geidwad Laura O'Sullivan i arbed tair ergyd gan Elise Thorsnes o fewn 10 munud.
Roedd cyfleoedd eraill i'r ymwelwyr ar ddechrau'r ail hanner, ond daeth y gôl hollbwysig o ergyd Frida Maanum o 20 llath ar ôl awr o chwarae yn y brifddinas.
Daeth Cymru'n ôl yn gryf gan bwyso i unioni'r sgôr, a Jess Fishlock oedd agosaf at wneud hynny gan saethu heibio'r postyn.
Roedd 'na ddwy apêl am gic o'r smotyn yn hwyr yn y gêm, ond colli oedd hanes Cymru er y perfformiad calonogol.
Mae'r canlyniad bellach yn golygu bod gan Ogledd Iwerddon y fantais yn y ras i orffen yn ail yng Ngrŵp C, o flaen Cymru.
Mae'r fuddugoliaeth yng Nghaerdydd yn golygu bod Norwy yn sicr o'u lle ar frig y grŵp, ac o'u lle yn y bencampwriaeth.