‘Dathlu Nadolig ‘traddodiadol’ ymhell o adre’
- Cyhoeddwyd
Yn draddodiadol, yng Nghymru mae plant yn dysgu bod Siôn Corn yn dod i gartrefi plantos da ar draws y byd ar Noswyl Nadolig, ond nid pob plentyn sy'n disgwyl ymweliad gan y dyn boliog yn ei got goch a'i farf wen yr adeg yma o'r flwyddyn.
Nid yw'r stori hon yn gyfarwydd i blant Cambodia, fel y mae Anna Roberts sy'n dysgu mewn ysgol ryngwladol yno, yn esbonio:
Cambodia: 'Dwi am geisio coginio cinio Dolig yn y tywydd poeth 'ma'
"Nes i fideo bach i'r plant wedi gwisgo yn fy nillad gaeaf ger y goeden Nadolig," medd Anna sy'n athrawes yn Phnom Penh, Cambodia lle mae'r tywydd yn boeth a llaith.
"Oedd o'n ffordd dda i'w dysgu [nhw] am ein Dolig ni adre. Nes i ddeud wrthyn nhw, 'newch yn siŵr eich bod chi'n gadael rhywbeth melys i Siôn Corn a rhywbeth i'r ceirw'. Doeddan nhw ddim yn gwybod am y traddodiad yma, felly o'ddan nhw wrth eu boddau!" meddai.
Mewn gwlad lle mae 98% o'r boblogaeth yn dilyn Bwda, rhaid mynd i'r canolfannau siopa i weld arwyddion o'r Nadolig.
"Mae'r bobl Khmer yn ofnadwy o grefyddol. Oherwydd eu bod nhw'n dilyn Bwdaeth maen nhw yn agos iawn at fyd natur ac mae hynny, a'r ochr ysbrydol, yn eu harwain nhw.
"Maen nhw'n ofnadwy o heddychlon. Mae'r temlau yn odidog. Maen nhw wedi'u peintio yn aur i gyd efo gwahanol addurniadau, mae'n anodd disgrifio. Pagodas 'di'r enwau ar eu cyfer. Mae'r toeau'n uchel a cherfluniau wedi'u gwneud o goed.
"Mae'r Khmer yn dueddol o fynd â bwyd yno i gynnig i'r meirw. Maen nhw'n bobl ysbrydol. Dyna'r gair gorau i'w disgrifio nhw."
Felly, dim ond diwrnod arferol arall yw dydd Nadolig yn Phnom Penh. Dim ond 0.5% o'r boblogaeth leol sy'n Gristnogion, ac mae llawer o'r tramorwyr sy'n byw yno yn heidio i'r ynysoedd i ddathlu'r ŵyl.
Ond aros adref fydd Anna a'i gŵr Cai gyda'u merched bach Elan sy'n bump oed a Miri sy'n dair.
"Diwrnod Dolig ei hun mi fyddwn ni yma, oherwydd bo' ni isho Nadolig traddodiadol fel adre, felly dwi am geisio coginio cinio Dolig yn y tywydd poeth 'ma.
"Ond dwi'n meddwl be' 'newn ni yn y bore ydi 'neud picnic bach a mynd allan i'r parc - rhwbeth i'r plant fwynhau. Mae'n mynd i fod yn hollol wahanol i'r Nadolig arferol, ond mae'n rhaid 'neud y gorau o beth allwn ni!"
Rhaglenni Cyw yn dysgu am draddodiadau'r Nadolig
Fel cyd-ddigwyddiad, mae 'na athro sy'n siarad Cymraeg yn yr ysgol ryngwladol lle mae Elan, merch Anna, yn mynychu. Mae e'n ei helpu i ddysgu carolau a chaneuon Nadolig. Ond heb gyfle i fynd i'r ysgol Sul, mae Anna'n dweud bod gwylio rhaglenni Cyw S4C ar y we yn help i ddysgu'r merched am y Nadolig traddodiadol.
"Dwi'n trio ngorau - a ma' Cyw yn ffynhonnell cynhwysfawr… dwi'm yn gwbod be' fysen i'n neud heb Cyw. Mae gynnon ni lyfrau am stori'r geni yn fan hyn, fel mae'r Nadolig yn agosáu dwi'n dod â'r llyfrau allan. Dwi'n dueddol o ddarllen rheiny, fel bo' nhw yn cael dysgu am y stori.
"Mae'n neis bo' nhw'n cal stori am Iesu Grist. Mae'n hanesyddol yn'dydi? Mae Elan yn gofyn llwyth o gwestiynau - trio ateb y cwestiynau 'di'r gamp."
Dubai: 'Bydd 'na dwrci ac 'all the trimmings' a bydd Siôn Corn yno…'
Fydd Siôn Corn ddim yn galw ym mhob cartref yn Dubai chwaith eleni. Draw yno mae Mari Jones Evans yn byw gyda'i gŵr, Gerallt, a'u mab bach dyflwydd oed, Gwion, ers mis Awst eleni.
Yng nghanol misoedd du y cyfnod clo yng Nghymru, daeth cyfle i Mari wireddu breuddwyd o fynd i ddysgu dramor. Llwyddodd i gael swydd fel Pennaeth Mathemateg mewn ysgol uwchradd breifat yn y ddinas. Gadawodd ei swydd yn Ysgol Uwchradd Llangefni, ac erbyn hyn mae hi wedi dysgu i beidio cyfeirio at wyliau'r 'Nadolig.'
"Mae'n ysgol genedlaethol, felly mae 70% o'r disgyblion yn Emirati. Mae 'na segregation rhwng y merched a'r bechgyn. 'Dan nhw ddim yn cael bod efo'i gilydd, felly mae gynnon ni systemau llym iawn i 'neud yn siŵr nad ydan nhw'n dod ar draws ei gilydd o gwbl.
"Ond mae hyd yn oed y disgyblion yn gwybod am y Nadolig. Dwi wedi llithro a dweud 'Christmas holidays', ond '''winter break' maen nhw yn ei alw o."
Ac eto, mae digon o arwyddion bod y Nadolig ar ei ffordd yn y canolfannau siopau.
"Mae bob dim yn mynd mlaen fel 'sa ni adre a bod yn onest. Yn y shopping malls, mae 'na goed Nadolig yn bob man. Mae'n wlad reit international - maen nhw i weld yn dathlu bob dim - nid jyst 'Dolig."
Wedi cyfnod o gyfyngiadau caeth yn Dubai mae llai o achosion o'r coronafeirws yno ar hyn o bryd a bydd modd i Mari a'r teulu gyfarfod â'u ffrindiau mewn gwesty dros y ŵyl - yn cynnwys rhai o Bwllheli!
"'Dan ni wedi bwcio Christmas brunch 'leni," medd Mari o'i chartref gyferbyn â'r mosg yn ardal Remraam.
"Does dim alcohol yma yn gyffredinol, felly ti'n gorfod mynd i safle efo trwydded arbennig. Mae 'na brunches mewn gwestai yn bobman, a ti'n talu hyn a hyn am all you can eat ac all you can drink. Dyna beth sy'n mynd 'mlaen diwrnod Dolig.
"Yn yr un fyddwn ni'n mynd iddi bydd 'na dwrci ac all the trimmings a bydd Siôn Corn yno… Dwi'n edrych ymlaen a deud y gwir!"
Mae gan Dubai ddelwedd o fod yn gymdeithas geidwadol iawn, gwlad lle mae bod yn hoyw yn anghyfreithlon a dim hawl gwisgo dillad pobl o'r rhyw arall. Mae Mari'n cydnabod ei bod yn ymwybodol iawn o'r rheolau cymdeithasol, ond yn dweud bod arwyddion bod pethau'n newid.
"Yn ddiweddar mae'r gyfraith wedi newid i roi hawl i gyplau sydd ddim yn briod i fyw efo'i gilydd. Mae hynna'n gam mawr.
"Mae 'na barti gwaith am fod - a drinks Dolig - a bydd 'na Fwslemiaid yno yn ein canol ni - maen nhw'n eitha' agored, maen nhw'n gwybod beth sy'n mynd ymlaen."
A beth bynnag fydd yn digwydd, bydd Siôn Corn bendant yn ymweld â Gwion bach 'leni.
Hefyd o ddiddordeb: