Posteri beiddgar Y Sioe Glybiau
- Cyhoeddwyd
Os ydych chi'n cochi'n hawdd neu'n blentyn, cliciwch i ffwrdd rŵan...
Oherwydd ers yr 1980au mae posteri Y Sioe Glybiau yn gallu bod bron yr un mor lliwgar â'r sgriptiau.
Mae'r gwaith celf a'r double entendres ar y posteri a matiau cwrw wedi eu dylunio i ddal y llygad a gadael i bobl wybod bod y sioe i oedolion ar daith o gwmpas Cymru unwaith eto.
Ac mae'r sioe glwb a'i boster yn ei ôl wrth i Gwmni Theatr Bara Caws lwyfannu fersiwn rithiol dros y ddau benwythnos nesaf.
Yn ôl Betsan Llwyd, o Gwmni Theatr Bara Caws, holl fwriad y posteri ydi dal y llygad a gadael i bobl wybod sut fath o sioe ydi hi - un sy'n cicio yn erbyn y tresi.
Meddai: "Fe wnaeth y posteri i'r rhai cynta' - Zwmba a Deial 999 greu dipyn o drafferth ar y pryd. Roedd rhai pobl a rhan o'r Sefydliad yn meddwl eu bod nhw'n rhy ddi-chwaeth, ond doedd pawb ddim.
"Mae'r posteri yn cael eu rhoi fyny ymhobman - unrhyw le yn y gymuned wnaiff eu rhoi nhw fyny, yn glybiau, siopau, clybiau rygbi a phêl-droed, tafarndai.
"Mae rhai pobl yn gweld y posteri ac yn dod i weld y sioe ac yn gwybod beth i'w ddisgwyl, ac mae rhai pobl yn hoffi sioe sydd ychydig yn goch.
"Mae 'na bobl yn dod fyddai ddim fel arfer yn mynd i'r theatr - ac ella ddim yn sylweddoli eu bod mewn theatr, ac yn dod i fwynhau sioe."
Emyr a Berwyn Morris-Jones o'r cwmni sydd wedi dylunio pob poster.
Fel cynnwys y sioeau, mae'r posteri hefyd wedi newid o ran chwaeth dros y blynyddoedd. Er eu bod yn llai beiddgar erbyn heddiw maen nhw'n dal i allu creu ychydig o stŵr o bryd i'w gilydd.
"Efo Un Fach Arall (Eto) tua phedair neu bum mlynedd yn ôl roedd yn rhaid i ni wneud dau fersiwn oherwydd bod rhai pobl wedi cwyno am yr un gwreiddiol," meddai Betsan Llwyd.
"Roedd Berwyn yn meddwl ei fod yn ddigon diniwed, a doedd o ddim llawer o ddim byd - sketch cartŵn o gorff dyn noeth - ond roedd yn rhaid i ni roi croes dros un rhan o'r corff ar gyfer eu rhoi nhw fyny mewn rhai llefydd.
"Mae'n dibynnu ar y lleoliad ac ar y gymuned. Ond o'u haddasu mae hefyd yn golygu ein bod ni'n gallu rhoi'r posteri i fyny mewn mwy o lefydd, llefydd fel Y Galeri yng Nghaernarfon er enghraifft, lle mae yna blant yn gallu eu gweld nhw."
Dyma rai o'r posteri eraill cofiadwy dros y degawdau:
Hefyd o ddiddordeb: