Hacwyr yn cymryd rheolaeth o wefan Comisiynydd y Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Neges FacebookFfynhonnell y llun, Facebook

Mae gwefan Comisiynydd y Gymraeg wedi cael ei hacio, ac mae'n ymddangos bod troseddwyr wedi cael mynediad at wybodaeth bersonol.

Mewn llythyr mewnol gafodd ei anfon gan y llywodraeth ddydd Iau, maen nhw'n egluro fod swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wedi dioddef ymosodiad seibr dros nos.

Ychwanegodd bod yr hacwyr wedi cael mynediad i'w holl ddata, wedi amgryptio'r data, ac yn bygwth cyhoeddi data personol os nad oes arian yn cael ei dalu iddynt.

Yn y llythyr maen nhw'n egluro na all Swyddfa'r Comisiynydd gael mynediad i'w systemau o gwbl, a'u bod yn cynnal trafodaethau gyda'r Ganolfan Seibrddiogelwch Genedlaethol.

'Holl systemau technegol wedi eu heffeithio'

Dywedodd y comisiynydd ar ei dudalen Facebok fore Gwener bod "holl systemau technegol Comisiynydd y Gymraeg wedi eu heffeithio ar hyn o bryd, sy'n golygu nad ydy ein gwefan, ebyst na phrif rif ffôn yn gweithio."

Ychwanegodd llefarydd ar ran y comisiynydd wrth BBC Cymru: "Gallwn gadarnhau fod systemau Technoleg Gwybodaeth Comisiynydd y Gymraeg wedi cael ymosodiad seibr.

"Rydym yn cydweithio gyda chyrff perthnasol i ymchwilio a delio gyda'r sefyllfa.

"Yn y cyfamser, byddem yn annog i unrhyw un sydd eisiau cysylltu gyda ni i wneud hynny drwy Facebook neu Twitter gan fod ein holl systemau technegol wedi eu heffeithio."

Pynciau cysylltiedig