Amser 'cau'r bwlch' mewn darpariaeth Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Aled Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi adroddiad sydd yn dweud fod yr amser wedi dod i "gau'r bwlch" rhwng darpariaeth Gymraeg sefydliadau.

Er bod sefydliadau cyhoeddus wedi perfformio yn well wrth gynnig gwasanaethau Cymraeg yn ystod 2019-20, roedd rhai agweddau yn "parhau i beri pryder" i'r Comisiynydd, Aled Roberts.

Roedd yr adroddiad sicrwydd 'Cau'r Bwlch', dolen allanol yn dangos fod 92% o lythyrau neu e-bost Cymraeg wedi derbyn ateb yn Gymraeg, fod opsiynau awtomatig dros y ffôn ar gael yn Gymraeg 90% o'r amser a bod ffurflenni ar gael yn gyflawn yn Gymraeg 78% o'r amser.

Ond dim ond mewn 46% o ymweliadau derbynfa y cafwyd gwasanaeth Cymraeg, a dim ond 55% o alwadau ffôn y llwyddodd sefydliadau i ddelio gyda hwy yn Gymraeg a rhoi ateb cyflawn yn Gymraeg.

'Bwlch yn tyfu'

Dywedodd Mr Roberts: "Mae yna risg fod bwlch yn tyfu rhwng y sefydliadau sydd yn perfformio'n dda a'r rhai sydd ddim cystal, ac mae angen i bob sefydliad gymryd eu cyfrifoldebau o ddifri.

"A hithau yn bedair blynedd ers i'r sefydliadau cyntaf ddod o dan safonau'r Gymraeg, mi fyddwn yn disgwyl i bob sefydliad gwrdd â'r gofynion bob tro.

"Mae yna rai sefydliadau sy'n perfformio yn dda iawn, ond gydag eraill, mae gwasanaethau allweddol, megis ffôn a derbynfa, yn perfformio'n wael a heb gynyddu dros y blynyddoedd diwethaf. Dyma'r gwasanaethau lle mae angen buddsoddi mewn staff."

Ychwanegodd y Comisiynydd: "Mi ddylai pob sefydliad fod yn ystyried pethau fel sefydlu tîm neu benodi swyddog sy'n gyfrifol am y Gymraeg, cynyddu faint o staff sy'n gallu siarad Cymraeg a chynnig gwasanaethau Cymraeg mewn ffordd sy'n golygu mai defnyddio'r Gymraeg yw'r opsiwn mwyaf naturiol.

"Mewn rhai amgylchiadau, er enghraifft cyfarfodydd sensitif ynghylch llesiant, dw i eisiau i sefydliadau ystyried cynnig gwasanaeth Cymraeg yn ddiofyn.

"Dw i eisiau gallu cymryd yn ganiataol fod gwasanaethau sylfaenol ar gael yn Gymraeg bob tro.

"Mi allwn ni wedyn ganolbwyntio ar ddyletswyddau eraill sy'n gwneud gwahaniaeth ar lefel strategol. Pethau megis penderfyniadau polisi, gan sicrhau bod sefydliadau yn ystyried effaith pob penderfyniad ar y Gymraeg, a gweithredu strategaethau 5 mlynedd cryf i hybu'r Gymraeg."

Bydd y Comisiynydd nawr yn cyfarfod gyda'r sefydliadau yn unigol i drafod y canlyniadau a'r diffygion yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad.