Chwe rhybudd o lifogydd yng Nghymru wedi glaw trwm

  • Cyhoeddwyd
AbertaweFfynhonnell y llun, Twitter/@SWPSwansea
Disgrifiad o’r llun,

Swyddogion heddlu yn Abertawe yn helpu ar ôl i gar fynd yn sownd yn y dŵr

Mae chwe rhybudd o lifogydd wedi bod mewn grym yng Nghymru yn dilyn glaw trwm ddydd Sul.

Cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol y rhybuddion ar gyfer ardaloedd fel Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion.

Yn dilyn glaw trwm, galwyd criwiau tân i eiddo llifogydd yn Llanusyllt, Porth Tywyn ac Abertawe fore Sul.

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi annog pobl i "gymryd gofal" ac wedi rhybuddio am dywydd gwael yn ne Sir Benfro.

Dywed Trafnidiaeth Cymru fod dim gwasanaethau rhwng Llanelli ac Abertawe na chwaith rhwng Dinbych-y-pysgod a Doc Penfro oherwydd llifogydd.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fod y galwadau cyntaf wedi dechrau dod i mewn am 09:00 ddydd Sul.

Ychwanegodd llefarydd bod yr holl ddigwyddiadau llifogydd yn ymwneud â chriwiau tân sengl a oedd yn mynd i'r afael â materion mewn niferoedd bach o eiddo.

Pynciau cysylltiedig