Codi'r cyfyngiadau sy'n atal pobl hoyw rhag rhoi gwaed

  • Cyhoeddwyd
Rhoi gwaedFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd pob rhoddwr yn cael eu hasesu'n unigol

Mae Cymru wedi codi'r cyfyngiadau sy'n atal pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol rhag rhoi gwaed.

Bydd y cwestiynau sy'n cael eu gofyn i roddwyr gwaed yn cael eu newid er mwyn symud i ffwrdd oddi wrth waharddiad cyffredinol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai pob rhoddwr yn cael eu hasesu'n unigol, waeth beth yw ei ryw, ei rywedd, neu ei gyfeiriadedd rhywiol.

Mae disgwyl i'r newid ddod i rym trwy'r DU gyfan yn haf 2021.

'Cael gwared ar hen rwystrau'

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething: "Bydd y cyhoeddiad hwn yn cael gwared ar y gwahaniaethu y mae llawer o bobl yn y gymuned LGBT+ wedi ei wynebu.

"Mae llawer o bobl wedi gweithio'n galed iawn i gyrraedd y sefyllfa hon.

"Dwi'n hynod ddiolchgar iddyn nhw, ac wrth fy modd bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cyflawni'r nod hwn sydd wedi bod yn uchelgais gennym ers amser hir.

"Mae ein harbenigwyr a'n systemau meddygol wedi gwella'n fawr a bellach gallan nhw ddarparu sicrwydd sy'n golygu y gallwn gael gwared ar yr hen rwystrau sydd wedi golygu nad oedd yn bosibl i rai pobl LGBT+ roi gwaed."

Pynciau cysylltiedig