Gwirfoddolwyr yn camu i'r adwy yng nghyfnod Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Clwb rygbi
Disgrifiad o’r llun,

Mae Clwb Rygbi Nant Conwy wedi penderfynu mynd ati i gynorthwyo'r gymuned leol

Mae awdurdodau lleol a'r trydydd sector wedi cael eu canmol mewn adroddiad am ymateb yn gyflym i helpu'r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas yn ystod y pandemig.

Mae'r adroddiad ar ran Llywodraeth Cymru hefyd nodi lefelau uwch o wirfoddoli.

Er hyn mae'r arolwg yn awgrymu bod lefelau uwch o unigrwydd ymhlith grwpiau agored i niwed yn ystod y pandemig.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog, Jane Hutt: "Mae'r gwaith hwn wedi rhyddhau awdurdodau lleol a'r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i'w galluogi i ddarparu gwasanaethau hanfodol i'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein plith."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rhydian Prys eu bod yn "falch o allu helpu pobl"

Yn Nyffryn Conwy fe wnaeth y clwb rygbi lleol Teirw Nant Conwy benderfynu mynd ati i gynorthwyo'r gymuned leol.

"'Oeddan ni'n mynd o gwmpas yn nôl presgripsiwn i bobl yr ardal ac yn mynd â nhw i'w cartrefi nhw felly i safio nhw orfod mynd allan o'u tai," meddai Rhydian Prys, un o'r gwirfoddolwyr.

"Gan fod gennym ni rwydwaith eang o chwaraewyr sy'n byw ar draws yr ardal mae wedi bod yn help i allu nôl pethau a helpu pobl yn y gymuned.

"De ni'n falch o allu helpu pobl i ddweud y gwir sydd wedi cefnogi ni fel clwb dros y blynyddoedd."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Dwynwen Berry, mae "llawer o bobl wedi cael budd mawr" o'r gwaith gwirfoddol

Un sy'n hynod werthfawrogol o waith gwirfoddol aelodau Clwb Rygbi Nant Conwy ydy Dwynwen Berry sy'n rhedeg Siop Bys a Bawd yn Llanrwst.

"De ni gyd yn ddiolchgar iawn am eu help, nes i gael eu help nhw ar ddechrau'r clo mawr i nôl presgripsiwn," meddai.

"Unwaith oedd pethau wedi llacio tipyn bach o'n i'n teimlo 'mod i'n medru mynd fy hun ond dwi'n gwybod bod 'na lot fawr o fy nghwsmeriaid wedi cael budd mawr ohono a diolch iddyn nhw am yr help."

Lowri Owain ydy Ysgrifenyddes Clwb Rygbi Nant Conwy a dywedodd bod y pandemig wedi dangos bod y clwb rygbi yn fwy na dim ond clwb chwaraeon.

"Mae'r clwb wastad wedi bod yn bwysig i'r gymuned, ac fel clwb 'da ni wedi bodoli ers 40 mlynedd, ond mae'r pandemig Covid wedi dangos mor bwysig ydy'r clwb fel adnodd cymunedol," meddai.

"Mae 'na deimlad braf mewn ffordd bod y clwb wedi medru camu fyny yn ystod y cyfnod clo mawr ac wedi helpu pobl."

Mae'r adroddiad hefyd yn argymell bod angen mwy o gymorth i wella sgiliau digidol a mynediad ymhlith grwpiau sy'n agored i niwed a'r difreintiedig.

Dywedodd Ruth Marks, prif swyddog gweithredol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC): "Ers dechrau'r pandemig, mae'r sector gwirfoddol wedi cynyddu ei wasanaethau i ddarparu cefnogaeth hanfodol i'r rhai mwyaf agored i niwed.

"Mae 22,528 o bobl wedi cofrestru i wirfoddoli eleni ar Wirfoddoli Cymru ac mae CGGC, cynghorau gwirfoddol sirol ac awdurdodau lleol wedi gweithio ar y cyd i sicrhau bod y gwirfoddolwyr hyn yn gallu cefnogi pobl mewn angen."