John Barnard Jenkins wedi marw yn 87 oed

  • Cyhoeddwyd
John Jenkins yn 2009 wedi gorymdaith flynyddol Liberation of HopeFfynhonnell y llun, Y Lolfa
Disgrifiad o’r llun,

John Jenkins yn 2009 yng ngorymdaith flynyddol Liberation of Hope yn Yr Hôb

Yn 87 oed, bu farw cyn arweinydd y grŵp parafilwrol Mudiad Amddiffyn Cymru, John Jenkins.

Bu farw'n dawel yn Ysbyty Maelor Wrecsam nos Iau.

Bu'n gyfrifol am drefnu'r ymgyrch fomio adeg Arwisgiad Tywysog Charles ym 1969.

Cafodd dau aelod o'r grŵp - Alwyn Jones a George Taylor - eu lladd pan ffrwydrodd un o'u bomiau y tu allan yn Abergele y noswaith cyn yr arwisgiad yng Nghaernarfon.

Yn gyn-swyddog ym myddin Prydain, cafodd Jenkins ei garcharu ym 1970 am 10 mlynedd, cyn dechrau gyrfa newydd fel gweithiwr cymdeithasol.

Ffynhonnell y llun, Y Lolfa
Disgrifiad o’r llun,

John Jenkins yn derbyn copi o'r bywgraffiad John Jenkins: The Reluctant Revolutionary? y llynedd

Cafodd ei ysgogi i weithredu gan y penderfyniad i foddi Capel Celyn a thrychineb Aberfan.

Yn ôl Dr Wyn Thomas, sydd wedi ysgrifennu bywgraffiad amdano, roedd John Jenkins yn ddyn o "egwyddorion cadarn, wnaeth ddioddef cryn dipyn am ei achos, a dros y wlad roedd yn ei charu".

Mewn neges yn cyhoeddi'r farwolaeth, dywedodd Dr Thomas "bod neb yn gresynu sgil-effeithiau mwyaf trasig ymgyrch filwriaethus MAC na John. Fe wnaeth y ffaith bod bywydau wedi'u colli, ac eraill wedi'u niweidio, effeithio arno'n ddwfn".

Un o'r rhai gafodd niwed oedd bachgen 10 oed o'r enw Ian Cox oedd ar ei wyliau o Loegr pan ffrwydrodd dyfais oedd wedi ei gosod tu ôl i'r siop yng Nghaernarfon.

Fe gollodd y bachgen ei goes dde a dioddef llosgiadau drwg.

Ffynhonnell y llun, Robat Gruffudd

'Esgorodd ei frwydrau ar ddeffroad cenedlaethol'

"Tristwch a sioc oedd clywed... fod y gwladgarwr o Gymro, John Jenkins wedi ein gadael," meddai Owain Williams - un o sylfaenwyr MAC, a gafodd hefyd ei garcharu am osod bom ar argae Tryweryn yn 1963.

"Wrth feddwl am yr hyn a gyflawnodd mewn cyfnod gweddol fyr o amser yn ystod y 60au, mae'n fwyfwy amlwg i bawb sy'n deall gwleidyddiaeth fod ei aberth wedi cyfrannu mwy na'r un digwyddiad arall tuag at yr hyn sy'n digwydd heddiw," meddai.

Ffynhonnell y llun, Y Lolfa
Disgrifiad o’r llun,

John Jenkins yn ei ddyddiau fel swyddog gyda'r fyddin

Pynciau cysylltiedig