Un o dri osododd fom ar argae Tryweryn wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Tri TrywerynFfynhonnell y llun, Emyr Young
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Emyr Llewelyn, John Albert Jones ac Owain Williams (o'r chwith i'r dde) eu carcharu am osod bom ar argae Tryweryn

Mae un o'r tri gafodd eu carcharu am osod bom ar argae Tryweryn dros 50 mlynedd yn ôl wedi marw.

Roedd John Albert Jones o Rydyclafdy ger Pwllheli hefyd yn un o sylfaenwyr Mudiad Amddiffyn Cymru.

Ar 10 Chwefror 1963, aeth tri dyn - Emyr Llewelyn, Owain Williams a John Albert Jones - i osod bom mewn trosglwyddydd ar safle gwaith codi argae ar draws Cwm Tryweryn.

Roedd Corfforaeth Dinas Lerpwl wedi llwyddo i newid y gyfraith er mwyn creu cronfa ddŵr, gan foddi pentref Capel Celyn.

Er i 35 o'r 36 Aelod Seneddol o Gymru bleidleisio yn erbyn y mesur (gyda'r llall yn atal ei bleidlais) fe gafodd y mesur ei basio.

'Neb yn debyg i John'

Emyr Llewelyn oedd y cyntaf o'r tri i gael ei garcharu, ond fe arweiniodd ymchwiliadau gan adrannau arbennig o'r heddlu, at garcharu Owain Williams a John Albert Jones yn ddiweddarach.

Wrth roi teyrnged i Mr Jones, dywedodd Owain Williams "nad oedd neb yn debyg i John."

"Roedd John yn hogyn distaw, diymhongar, a doedd o byth isho sylw am beth oedd o'n ei wneud.

"Mi gafodd fagwraeth ddigon anodd, ar ôl colli ei fam yn ddwy oed. Mi ddes i i'w nabod o gyntaf pan oedd o ryw 18 oed, ac o'n i'n cadw cafe-bar ym Mhwllheli.

Disgrifiad,

Emyr Llewelyn: John Albert Jones oedd yn "cynrychioli gwerin bobl Cymru"

Eglurodd Mr Williams fod John Albert Jones wedi treulio cyfnod yn gwasanaethu gyda'r Awyrlu, ond bu'n rhaid iddo adael ar ôl dioddef damwain.

"Roedd gan John egwyddorion cadarn ac yn credu'n gryf yn yr achos. Roedd o'n weithiwr caled, ac wedi gweithio fel paentiwr ar liwt ei hun ar hyd ei oes.

"Roedd hefyd yn hoff o deithio, ac wedi mwynhau gwyliau diweddar yn Ne Affrica. Ond yn hwy na phopeth arall, roedd teulu yn bwysig i John."

"Cawr mawr addfwyn" oedd y geiriau wnaeth Emyr Llewelyn ddefnyddio i'w ddisgrifio.

Dywedodd ar y Post Cyntaf ei fod yn "bersonoliaeth arbennig iawn".

'Cwlwm cryf' rhwng y tri

"Bachgen swil, tawel. Dyn cynnes, treiddgar ac odd e'n ddeallus iawn hefyd. Ond odd e'n deyrngar bob amser ac yn llawn hiwmor," meddai.

Ychwanegodd fod "cwlwm cryf" wedi datblygu rhwng y tri dyn am eu bod wedi penderfynu gweithredu gyda'i gilydd.

"Roedd yna frawdoliaeth a ffyddlondeb i'n gilydd ac agosatrwydd mawr wedi tyfu rhwng y tri ohonom ni yn yr amser yna."

Disgrifiad o’r llun,

"Cawr mawr addfwyn" oedd disgrifiad Emyr Llewelyn o John Albert Jones

Wnaeth Emyr Llewelyn ddim gweld John Albert Jones am flynyddoedd wedi boddi Tryweryn.

Ond mae'n dweud pan wnaeth o ei gyfarfod unwaith eto fod "yr un agosatrwydd, yr un cynhesrwydd" yn dal yno.

"Odd e'n caru ei deulu, odd e'n caru ei ffrindiau, odd e'n caru ei fro a'i iaith. Ond o'dd e ddim yn disgwyl dim byd 'nôl.

Ei wobr e odd bod e'n 'neud y peth iawn a braint fawr i fi o'dd ei nabod e fel cyfaill ac adnabod yr addfwynder a mawredd o'dd yn perthyn iddo fe."

Roedd John Albert Jones yn dad i 10 o blant.