Y Bencampwriaeth: Caerdydd 2-3 Brentford
- Cyhoeddwyd
Colli oedd hanes Caerdydd yn erbyn Brentford gartref yn Stadiwm Dinas Caerdydd, a hynny o dair gôl i ddwy.
Mae rhediad llwyddiannus Brentford yn parhau wedi'r fuddugoliaeth, gan fynd 15 o gemau'n ddiguro ym mhob cystadleuaeth.
Fe wnaeth Will Vaulks roi Caerdydd ar y blaen gyda chic syfrdanol o du mewn i'w hanner ei hun, ond fe wnaeth Sergi Canos unioni'r sgôr gydag ergyd drawiadol o 25 llath - ei gôl gyntaf o dair yn ystod y prynhawn i Brentford.
Aeth Brentford ar y blaen gyda rhediad gwych gan Canos, gyda'i ergyd yn gwasgu heibio i Alex Smithies.
Er i ail gôl Vaulks roi gobaith yn hwyr i Gaerdydd, doedd ddim yn ddigon i osgoi canlyniad siomedig i dîm y brifddinas.
Mae'r fuddugoliaeth yn golygu fod Brentford yn aros yn bedwerydd yn y Bencampwriaeth, tra bod Caerdydd yn llithro i'r unarddegfed safle.